Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<5îfaiII (Bgiiüpifl. CHWYLDROAD 1688. Yn y chwyldroad hwn colTodd Iago II. ei goron; a'i fab yng nghyfraith, Tywysog Orange, a'i ferch Mari, a esgyn- asant yr orsedd yn ei le o dan yr enwau Gwilym III. a Mari II. Y chwyldroad a gymmerodd le heb dywallt ond ychydig o waed. Gwilym, wedi mordaith lwyddiannus o Holland, a laniodd ei fyddin yn Torbay, yn swydd Devon, ar y pummed dydd o Dachwedd, 1688; ac a'i harweiniodd yn ddiattreg tua phrifddinas Llundain. Ni safodd byddin Iago o'i flaen; canys llawer o'r milwyr a giliasant o fyddin Iago, ac a unasant â byddin Gwilym; ac felly Gwilym a arweiniodd ei filwyr i mewn i Lundain, heb gyfarfod ag ond ychydig o rwystrau ar y ffordd. Iago a ffodd i Ffrainc, ac a amddifadwyd o'i goron. Ar esgyniad Gwilym a Mari i'r orsedd, sefydlwyd a phenderfynwyd pynciau ag oeddynt wedi bod'yn achosion dadl ac ymryson rhwng Iago, yng nghyd â'i dadau, a'r genedl am flynyddoedd lawer. Sefydlwyd a phenderfyn- wyd y pryd hwn rai o'r egwyddorion mwyaf pwysig ar y rhai mae cyfansoddiad eîn teyrnas yn gorphwys. A chawn yn awr nodi rhai o'r egwyddorion hyn; ac ynddynt gwelwn mawredd y bendithion a sicrhawyd i'n cenedl, ac i'r byd, yn chwyldroad y flwyddyn 1688. I. Penderfynwyd y ddadl yng nghylch hawl breninoedd i'w coron; y sail ar ba un y gorphwysai yr hawl hon oedd testyn y ddadl. Tybiai rhai fod gan y mab hawl ddwyfol i orsedd ei dad; ond tybiai ereill fod ei hawl yn ymddi- bynu ar gydsyniad y genedl. Y cyntaf a ystyrient y brenin fel "eneiniog yr Arglwydd," ac nas gallesid ei am- ddifadu o'r goron o dan unrhyw amgylchiadau heb bechu yn erbyn Duw; a'r olaf a edrychent arno fel "gweinidog Duw" er daioni i'w ddeiliaid, ond fel y credent fod ei U—Hydref, 1869.