Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfôfatll Ŵjlwgaij. "ARIAN, ARIAN BYTH A HEFYD." Yn y ddadl ym Mhwyllgor Ty yr Arglwyddi ar ysgrif yr Eglwys Wyddelig, bu tipyn o son am arian. Arian, yn wir, oedd testyn y ddadl. Ar ol yr ail ddarlleniad, a phenderfynu y pwnc o ddadsefydliad a dadwaddoliad, nid oedd dim ar ol i siarad yn ei gylch, ond pa mor llwyr y dylid dihatru yr Eglwys o'i gwaddolion; os na siaradent ac os na ddadleuent am arian, jiid oedd dim i ddadleu yn ei gylch. Rhaid tewi, a rhoddi y ddadl i fyny, a gadael i'r weinydd- iaeth i gael ei fFordd ei hun yn ddirwystr. Wrth ddarllen sylwadau ar y ddadl yn y papyrau ymneillduol, dywedid am bob gwelliant a gynnygid, "Arian eto," "Arian, arian byth a hefyd." Pan fyddai yr esgobion, neu rai o'r arglwyddi yn dadleu dros y cyfiawnder o roddi yr un telerau i'r Eglwys ag a roddid i Goleg Pabaidd Maynooth, a'r gweinidogion Presbyteraidd, sef rhoddi gwerth pedair blynedd ar ddeg o'r hyn a dderbyniai yn bresennol, dywedid, "Arian, arian byth a hefyd." Pan ddadleuent dros adael i'r Eglwys yr holl waddolion personol a roddwyd iddi oddi ar amser y Diwygiad Protestanaidd, sef can mlynedd yra mhellach yu ol nag oedd yr ysgrif yn cydnabod ei hawl, dywedid, "Arian, arian byth a hefyd." Pan ddadleuent dros adael y persondai i'r offeiriaid, a thalu y ddyled oedd yn gorwedd arnynt, gan eu bod yn talu y ddyîed oedd ar Maynooth, dywedid, "Arian, arian byth a hefyd." "Nid yw yr arglwyddi a'r esgobion yna yn siarad nac yn gofalu am ddim ond am arian." Wel, megys y sylwyd eisoes, nid oedd ganddynt ddim i ddadleu drosto ar y pryd ond arian; os na wnaent hyny, rhaid iddynt dewi. Os nad oedd yr arian yu werth i'r Eglwys ymdrechu eu cadw, nid oeddynt yn werth i'w gwrthwynebwyr eu cymmeryd oddi arni. Pa ham na adawsid y pethau 33—Medi, 1869.