Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f flfôfaiU Ŵgtuipij. YSGRIF YR EGLWYS WYDDELIG. Mae'r ysgrif hoa wedi pasio trwy Dy y Cyffredin, heb ond ychydig o gyfnewidiadau bychain ynddi. Mae wedi pasio yr ail ddarlleniad yn Nhy yr Arglwyddi; a phan yr ydym yn ysgrifenu, y mae o fiaen Pwyllgor Ty yr Arglwyddi, yn cael ei chwalu, ac fel y tybir, yn cael ei gweUa. Cynnygir gwelliantau pwysig, a thebygol y pasir amryw o honynt. Eithr ofer i ni yn awr geisio prophwydo pa ffurf fydd ar yr ysgrif yn dyfod allan o'r Ty Uchaf, na pha dderbyuiad a gaiff hi yn ei dullwedd newydd yn y Ty Isaf. Mae dadleu galìuog wedi bod yn y ddau Dy, drosti ac yn ei herbyn; ac nid rhyfedd, gan fod pob plaid yn addef mai hi yw yr ysgrif fwyaf bwysig, y fwyaf bwysig yn ei hegwyddorion a'i chanlyniadau, a fu ger bron y Senedd er ys tri chan mlynedd. Bernir gan y rhan amlaf o ddarllenwyr y newyddiaduron i'r ddadl gael ei dwyn ym mlaen gyda mwy o hyawadledd a nerth yn y Ty Uchaf nag yn y Ty Isaf, er fod yr Arglwyddi o dan yr anfantais fod pob peth a ellid ddyweyd ar y ddwy ochr, wedi cael ei ddyweyd cyn iddynt hwy gael siarad dim. 0 bob araith a draddodwyd, rhoddir y fiaenoriaeth i eiddo Dr. Magee, esgob Peterboro. Tra y mae'r ysgrif yn cael ei chywiro a'i chaboli o dan ddwylaw yr Arglwyddi, cymmerwn achlysur i wneuthur rhyw ddau neu dri sylw ar rai o'r prif resymau a roddir drosti, sef ar y prif egwyddorion sydd yn rhedeg trwyddi. Mae egwyddorion yn bwysig, o blegid wedi gosod egwyddor mewn gweithrediad unwaith, nid gwaith hawdd yw i Gladstone na neb arall osod attalfa arni, a sefyll o'i blaen a dyweyd, Hyd yma yr ai ac nid ym mhellaẃ. Mae llawer wedi pleidleisio dros yr ysgrif, gan feddwl cyfyngu ^l—Gorpheìiaf, 1869-