Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

flteíatlî ŵjlflîjaij. PRAWF Y SAITH ESGOB 0 DAN IAGO II. Yn ein rhifyn diweddaf cyfeiriasom at y testyn hwn, ac yn awr cawn fanylu arno. Iago yr Ail a gyhoeddodd ar ei awdurdod ei hun, heb gydsyniad y Senedd, rhyddid crefyddol i'w ddeiliaid; ac a orchymmynodd i'r esgobion i beri i'r cyhoeddiad gael ei ddarllen yn yr Eglwysi trwy eu hesgobaethau. Yr esgobion agos i gyd a wrthodasant ufuddhau i'r gorchymmyn; a saith o honynt a gyfìwyn- asant ddeiseb i'r brenin ar yr achos, gan ddeisyf arno i beidio gofyn oddi wrthynt ufudd-dod, yr hwn a ommeddai eu cydwybodau iddynt ei rhoddi. Y saith esgob hyn oeddynt Sancroft, archesgob Canterbury; Lloyd, esgob Llanelwy; Turner, esgob Ely; Lake, esgob Chichester; Ken, esgob Bath a Wells; White, esgob Peterborough; a Trelawney, esgob Bryste. Y saith esgob hyn a gyfarfu- asant, yng nghyd â duwinyddion dysgedig ereill, ym mhalas yr archesgob yn Lambeth, ar ddydd Gwener cyn y Sul ar yr hwn yr oedd y cyhoeddiad i gael ei ddarllen yn yr Eglwysi. Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd ar y ddeiseb, yr hon a gyfansoddwyd gan yr archesgob, ac a lawnodwyd gan y chwech esgob ereill a enwasom. Yn y ddeiseb tystient eu hymlyniad diysgog wrth yr orsedd, a'u pryder dros ryddid crefyddol; sicrhäent fod yr Eglwys yn awr, fel pob amser, yn ffyddlawn i'r Goron; dywedent fod yr esgobion yn barod yn eu lle yn Nhy yr Arglwyddi, ac yn nhy uchaf y Gymmaufa Eglwysig, i ddangos fod ganddynt ofal tyner am gydwybodau yr Anghydffurfwyr. Ond yr oedd y Senedd wedi dadgan ei dedfryd nad oes hawl gan y brenin i ymyraeth â, ac i roddi heibio, deddfau y deyrnas mewn achosion eglwysig. Yr oedd y cyhoeddiad, gan hyny, yn anghyfreithlawn, ac nis galias- 30—Mehetin, 1869.