Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Çgfaill Ẃí'lnfgjiig. Y SECTAU IUDDEWIG. Yn y Testament Newydd sonir am dair sect neu blaid grefyddol ym mhlith yr Iuddewon yn amser ein Hiachaw- dwr—y Phariseaid, y Saduceaid, a'r Herodianiaid; ac am y sectau hyn rhoddwn yn bresennol ychydig hanes. I. Y Phariseaid. Y sect hon oedd y luosocaf ei rhif, a'r fwyaf ei dylanwad o honynt oll. Mae tarddiad yr enw " Pharisead " yn ammhëus: myn rhai ei fod yn tarddu o air Hebraeg, ystyr yr hwn yw " esbonio " neu " egluro," ac y gelwid y sect wrth yr enw hwn o blegid mai yn eu plith y ceid esbonwyr neu ysgrifenwyr y Gyfraith, y rhai a elwir yn y Testament Newydd yn " gyfreithwyr" ac " ysgrifenyddion." Ond ereill, gyda mwy o briodoldeb, a dybiant y gelwid y sect yn Phariseaid oddi wrth air Heb- raeg, ystyr yr hwn yw " ymneillduo " neu " ymranu," ac ystyriant iddynt gael yr enw oddi wrth y ffaitb eu bod yn ymneillduo oddi wrth ereill, ac yn barnu eu hunain yn sancteiddiach na'u cymmydogion. Dywedent wrth eu cymmydog, " Saf ar dy bed dy hun ; na nesâ ataf fî, canys sancteiddiach ydwyf fi na thydi." Ceir hynodion y sect hon yn y Testament Newydd, ac ni a roddwn yn awr rai o honynt. (1.) Yr oeddynt yn dal traddodiadau yr hynafiaid. Gwir, y derbynient yr oll o'r Hen Destament fel Gair Duw, ond credent i'r Arglwydd roddi i Moses ar Fynydd Sinai ddeddfau ereill heb law y rhai a ysgrifenodd efe yn ei lyfrau, ac i'r deddfau hyn gael eu traddodi o dad i fab, ac o fab i ŵyr, trwy yr oesoedd hyd nes yr ysgrifenwyd hwynt yn y Talmud: a'r traddodiadau hyn, y rhai yn awr a geir yn Talmud y Phariseaid, a ystyrient o ddwyíbl aw* durdod; ystyrient hwynt o gymmaint awdurdod a'r Ys- 27—JfawrfA, 1869.