Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfgfaUl ŴglMjpif). ADFENT. Y pedwar Sul oyn Nadolig a elwir Suliau'r Adfent. Y gair Adfent a dreiglir o'r Lladin, a'i ystyr yw " Dyfodiad;" a gelwir y Suliau hyn wrth yr enw hwn o blegid bod yr Eglwys ynddynt, tra yn darparu ac yn cymhwyso meddyl- iau ei haelodau i gofio yn deilwng ar wyl y Nadolig am ddyfodiad cyntaf Mab Duw, yn cyfeirio eu sylw at ei ail ddyfodiad yn y cymylau i farnu'r byw a'r meirw. Ac felly tra mae yn galw i'n cof ei ddyfodiad cyntaf, mae yn ein dysgu i ddysgwyl am ei ail ddyfodiad. Mae yn ein dysgu pa beth yr ydym i wneuthur, a pha foddion yr ydym i ddefnyddio, fel ag i fod yn barod i gyfarfod a chroesawu ein Harglwydd pan y dêl. Yn y Colect am y Sul cyntaf yn yr Adfent, mae yn ein dysgu ein bod i ymarfer purdeb a sancteiddrwydd, ac i ymwrthod â phechod ac annuwioldeb. Yn y Colect hwn yr ydym yn gweddîo fel hyn:—"Hollalluog Dduw, dyro i ni ras i ymwrthod â gweithredoedd y tywyllwch, ac i wisgo arfau y goleuni yn awr yn amser y bywyd marwol hwn, pryd y daeth dy Fab Iesu Grist i ymweled â ni mewn mawr ostyngeiddrwydd, fel y byddo i ni yn y dydd di- weddaf, pan ddelo Efe drachefn yn ei ogondddus Fawredd i farnu byw a meirw, gyfodi i'r bywyd anfarwol drwyddo Ef, yr Hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyda Thi a'r Ys- bryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd." Yma dysgir fod yn rhaid i ni "ymwrthod"â gweithredoedd y tywyllwch a gwisgo arfau y goleuni," cyn y gallwn ddysgwyl "pan ddelo Efe yn ei ogoneddus fawredd," gael "cyfodi trwyddo Ef i'r bywyd anfarwol." Yn y Colect am yr ail Sul yn Adfent, dysgir ni mai trwy wrando, credu, a gwneuthur Gair Duw, y cawn afael ar, a mwynhâd o fendigaid obaith y bywyd tragwyddoL 2i—Bhagfyr, 1868,