Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÇîfaiII''ẂgIttîjaij. Y DEGWM. Mae hanes dechreuol y Degwm yn y deyrnas hon yn guddiedig mewn tywyllwch: nid oes gwybodaeth sicr pa bryd y dechreuwyd ei dalu. Tybia rhai y telid ef ym mhlith y Prydeiniaid cyn dyfodiad y Sacsoniaid i'r wlad; ond mae hyn yn j.ammhëus ; nid oes, fe ddichon, seiliau digonol i allu gwneuthur yr haeriad hwn gyda sicrwydd. Ond nis gellir ammheu i'r Degwm gael ei sefydlu ym mhlith y Sacsoniaid yn fuan wedi eu dychweliad at Grist- ionogaeth : addefir hyn yn gyffredinol, ac afraid i ni ddwyn profion i gadarnhau yr haeriad. Y ddadl fwyaf bwysig o barth y Degwm yw, pa fodd neu gan bwy y sefydlwyd ef ?— pa un ai gan frenin neu freninoedd, trwy osodiad cyfraith, neu gan y barwniaid yn neillduo y ddegfed ran o gynnyrch eu tir i wasanaeth Duw ? Os y cyntaf yw y ffaith, yna y mae hawl yr Eglwys i'r Degwm yn gorphwys ar weithred seneddol; ond os yr olaf, yna mae yn ei feddiannu fel rhodd wirfoddol personau neillduol. Rhai Ymneillduwyr a fabwysiadant y dybiaeth gyntaf; ond yr ydym ni yn mabwysiadu yr olaf. Yr Ymneillduwyr, pan daerant mai y cyntaf yw'r ffaith, a'n cyfeiriant at ysgrifen EthelwlfF, brenin y Sacsoniaid Gor- llewinol, a thad Alffred Fawr, yr hon a wnaeth efe yn y flwyddyn 855. Ond y mae ansicrwydd nid bychan yng nghylch darlleniad ac ystyr yr ysgrifen hon. Dywed Sharon Turner yn ei Hanes o'r Anglo-Sacsoniaid,* fod tri o wahanol gopîau o'r ysgrifen yma ar gael, a bod y copíau hyn yn gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd yn eu darllen- iad; ac y mae ef yn benderfynol yn ei farn nad yw yr ysgrifen o gwbl yn cyfeirio at y Degwm. Ni a roddwn ei eiriau ei hun ger bron y darllenydd : fel hyn y dywed:— * Gwel Sharon Turner's History ofthe Anglo- Saxons, Book iv., Ckap. iv. 23—Tachwedd, 1868.