Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (íífaiU Ŵglropifl. DYDDIAU IEUENCTYD. DrDDiAü hynod yn oes dyn yw dyddiau ieuenctyd: maent yn ddyddiau hawddfyd! Mae'r gwr ieuanc yn Üawenyehu ynddynt: nid yw yn gwybod ond ychydig, neu ddim, am ofalon a thrafferthion y byd, am wendidau a chlefydau y corff, ac am wasgfeuon a gofidiau'r meddwL Nid yw y dyddiau blin eto wedi ei ddal, a'r blynyddoedd yn y rhai y gall ddywedyd, nid oes i mi ddyddanwch ynddynt; nid y w y cymylau eto wedi dychwelyd ar ol y gwlaw; nid yw'r haul, a'r lleuad, a'r ser wedi tywyllu; nid yw ceidwad y ty yn crynu, na'r gwŷr cryfion yn crymu; na'r rhai sydd yn malu yn methu, am eu bod yn ychycüg; na'r rhai sydd yn edrych trwy'r ffenestri yn tywjllu; mid yw'r pyrth wedi cau yn yr heolydd, na merchea cerdd wedi eu gostwng i lawr; nid yw'r pren almond wedi blodeuo; nid yw ceil- iog y rhedyn yn faich, ac nid yw chwant yn pallu; nid yw'r llinyn arian a'r cawg aur, a'r piser ger. llaw'r fíynnon, a'r olwyn wrth y pydew wedi tori. Mae'r. breichiau yn rymus i weithio, a'r gliniau yn gryfion i gerdded; mae'r dannedd yn gyfain, ac yn gadarn i falu; mae'r glust yn gyflym i glywed, a'r llygad?jn graff i weled; mae'r llais yn beraidd ei sain; ac mae'r galon a'i pheiriannau yn gweithio yn nerthol ac yn rheolaidd. Mae'r meddwl a'i gynneddfäu, a'r corfF a'i aelodau, yng nghryfder eu nerth, yn cyflawnu eu swyddau yn rhydd, yn rhwydd, ac yn hwylus. Dyddiau hawddfyd yw dyddiau ieuenctyd; hafaidd ydynt. Dyddiau gwagedd yw dyddiau ieuenctyd! Gwagedd yw mebyd ac ieuenctyd: mae fíblineb yn rhwym yng nghalon y dyn ieuanc. Pethau gwag, ac nid sylweddol, mae yn hofíì; arfeipon ofer, ac nid buddiol, mae yn ddilyn; 22—Hyéref, 1868.