Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cífaill ŵglwjaij. YR EGLWYS WYDDELIG. Mae'r wlarì yn awr yng nghanol cynhyrfiadau yr Ethol- iad, a'r pwnc sydd yn cael sylw penaf y cyhoedd yw yr Eglwys Wyddelig. Cynnygiodd Mr. Gladstone yn y Senedd ddiweddaf ei bod i gael ei dadgyssylltu oddi wrth y Llywodraeth, a'i hanwaddoli; a chafodd ei gynnygiad y mwyafrif yn Nhy y Cyffredin ; ac yn yr Etholiad, mae'r wlad i benderfynu a ydyw bwriad Gladstone a'i blaid i gael ei ddwyn i weithrediad, ac i ddyfod yn gyfraith. Dichon f'od rhai o'n darllenwyr yn anhysbys o seiliau y ddadl ar y pwnc; ac er mwyn y rhai hyn, ni a ymdrechwn eu dangos mor eglur a byr ag y medrwn. 1. Dywed Gladstone a'i blaid mai y Pabyddion ydyw y mwyafrif o'r boblogaeth yn yr Iwerddon, ac o herwydd hyn na ddylai Eglwys Brotestariaidd fod yn sefydledig yn eu plith. Yr ydym yn addef yr haeriad mai y Pabyddion ydynt y mwyafrif yn yr Iwerddon, ond yn gwadu y casgl- iad na ddylai o herwydd hyny Egíwys Brotestanaidd fod ÿn sefydledig yn y wlad. Nid ydym yn seilio rheswm dros Eglwys Sefydledig ar nifer y bobl sydd yn aelodau o honi, ond ar wirionedd ei hegwyddorion. Yr oedd crefydd Baal yn Israel yn grefydd y mwyafrif; yr oedd yn grefydd y Brenin Ahab a'r Frenines Iesebel; ac yr oedd yn grefydd y werin gyffredin ; ac eto Elîas y Prophwyd a geryddoâd y brenin, a'r prophwyd a dystiodd dros grefydd Dtiw Israel, ac a geryddodd y brenin am ymadael â hi a'i hes- geuluso. Nid oedd y prophwyd yn gosod pwys ar nifer y proffeswyr; ac felly, ni ddy wedasai Elias am ddiddymu yr Eglwys Brotestanaidd yn yr Iwerddon ar y sail mai Pab- yddion yw y werin ; ond buasai yn tystio dros y gwirion- edd, ac yn ei gefnogi, nid am fod llawer yn ei broffesu, ond o blegid mai gwirionedd Duw ydyw. 21— Medi, 1868.