Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| fîWlî (Bíltüptj. CENFIGEN GREFYDDOL. Yng nghanol yr holl ddadwrdd a'r berw o barth ?r Eg- glwys, ei safle, a'i meddiannau, mae Uawer un yn gofyn, Beth yw hyn oll? beth yw yr achos o hynî o ba le y mae yn tarddu î beth y mae yr Eglwys wedi ei wneuthur yn awr, fod yr holl ymosod fíyrnig hyn arni, a'r holl floeddio am ei dilè'u? Nid gwaith hawdd yw ateb y cyfryw gwes- tiynau a'r cyffelyb; ond pan y gofynir hwynt yn barhäus, arweinir ni i chwilio am atebiad; ac wedi chwilio, yr ydym yn ofni mai o genfigen mae'r holl ferw yn tarddu, ac mai cenfigen sydd wrth wraidd y cwbl oll. Maddeued ein gwrthwynebwyr i ni os ydym yn camsynied: yr ydym wedi methu cael allan un atebiad arall; ac erfyniwn arnynt hwythau, cyn rhoddi eu barn arnom ein bod yn garasyniol, i fod mor deg a phwyllog ag edrych i mewn i'r fynwes, a gofyn yn onest pa deimlad sydd yn eu hannog i ysgrifenu, ac areithio, a deisebu yn erbyn yr Eglwys fel y gwnânt? a ydyw'r galon yn hollol rydd oddi wrth genfigen? onid yw cenfigen yn llochesu yn rhyw gongl o'r fynwes? Y mae hi yn dangos ei hun weithiau wrth ddrws y geneu, a hyny ar yr adegau mwyaf cyhoeddus: yr ydym wedi ei gweled yn awr ac eilwaith: nid oes eÎBÌeu rhoddi darnod- iad na dysgrifiad o honi. Digon yw dyweyd ei henw; mae pob un yn ei hadwaen. Fel y mae gwaethaf y modd, rhy adnabyddus yw hi ym mhob cymmydogaeth. Mae golwg salw arni, mae gwyneb sarig iddi, mae colyn llym ganddi: un aflonydd iawn yw hi; ni rydd lonydd am fynyd i'w phercheuog, nac i neb o gwmpas iddi: mid oes dim ded- wyddwch i'r hwn sydd yn rhoddf; lletty iddi, ac yn ei phorthi. Y dyn mwyaf annedwydj| yn y plwyf yw'r dyn sydd yn chwerwi wrth weled un afÉi yn gwisgo gwell cot nag ef; wrth weled masnach arall ýn llwyddo yn well na*r 20—Awit, 1868.