Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$g|ain fl&glujgaij). CAMSYNIADAU 0 BARTH I'R EGLWYS. Mae mwy o ysgrifenu ac areithio yn erbyn yr Eglwys, a mwy o ymosod arni y dyddiau hyn, nag arferol, er fod digon o hyny yn cael ei wneuthür bob amser. Er mwyn ymosod arni yn fwy effeithiol, a ohreu rhagfarn yn ei herbyn, rhaid ei chamddarlunio ym mhob peth a berthyn iddi: mae rhai yn ei chamddarlunio raewn anwybodaeth, a rhai, fel mae achos ofni, yn fwriadol. Md yw'r bobl ag sydd bob amser yn Uefaru drwg am eu cyramydogion yn teilyngu cael eu credu yn yr oll a ddywedant; o'r hyn lleiaf, mae achos o'u drwgdybio, a galwad am chwilio i mewn a phrofi sail eu dywediadau. Wrth glywed yr un pethau yn cael eu Hadrodd drosodd a throsodd, mae perygl i Eglwyswyr ieuaihc gredu fod yr hyn a ddywedir yn wir, ac felly coleddu syniadau anghywir am yr Eglwys y perthynant iddi. Yr ydym wedi darllen hanes yr Eg- lwys, ac yr ydym yn methu gweled, yng ngweithiau prif haneswyr yr Eglwys, yr hyn a ysgrifenir yn y papyrau, ac a ddywedir ar esgynloriau am dani. 1. Ar bob esgynlawr, ac ym mhob pulpud, pan yn lìefaru yn erbyn yr Eglwys, dywedir mai yn amser Harri yr Wythfed y daeth yr Eglwys i fodolaeth: dyna aniser ei dechreuad; Harri a'i creodd hi! efe oedd ei thad hi! ac amrai bethau cyffelyb. Mae hyn wedi ein harwain i ofyn, Pa bryd y bu Harri yr Wythfed yn teyrnasu? a oedd Eg- lwys Gristionogol yn y wlad cyn ei amser ef ? pa fath ddyn oeäd ef? pa beth a wnaeth ef dros ac i'r Eglwys? Yr ydym yn cael iddo fod yn frenin ar y deyrnas hon am ddeunaw mlynedd ar hugain, ac iddo farw ychydig dros dri chan mlynedd yn ol. Yr oedd Eglwys yn y wlad cyn ei ddydd ef: yr oedd yr Eglwys yn babyddol, ac o dan awdurdod y Pab. Yn ei ddaliadau crefyddol, Pabydd 19—GorpJienaf, 1868.