Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fgfaill Ŵflliügöijg. CAETHIWED BABILON. Caethiwed Babilon oedd gyfnod tywyll a du yn hanes Eglwys Dduw. Amser oedd yn yr hwn y gallasai ddywedyd, " Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio ? ac oni bydd Efe boddlawn mwy ? A ddarfu ei drugaredd Ef dros byth? a balla ei addewid Ef yn oes oesoedd ? a anghofìodd Duw drugarhau ? a gauodd Efe ei drugareddau mewn soriant?" Amser oedd yn yr hwn y tywyllodd yr aur, ac y newidiodd yr aur coeth da, ac y taflwyd ceryg y cyssegr ym mhen pob heol. Yr oedd ffyrdd Sîon yn galaru o eisieu rhai yn dyfod i'r wyl arbenig; ei holl byrth hi oedd anghyfannedd; ei hoffeiriaid yn ocheneidio, ei morwynion yn ofidus, a hithau yn flin arni. Yr oedd Ierwsalem yn gameddau, a mynydd y ty fel uchel-leoedd y goedwig. Y mae yr Iuddewon yn noiM iddynt golli yn y cyfnod hwn bump o'r pethau penaf a mwyaf gogoneddus perthynol i addoliad eu teml, y rhai ni adferwyd iddynt mwy. Y cyfryw oedd (1.) Yr Urim a'r Thummim yn nwyfroneg yr archoffeiriad, trwy yr hwn yr hysbysid iddo mewn dull goruchnaturiol ewyllys a meddwl Duw; (2.) Arch y y cyfammod, oddi ar yr hon y rhoddai Duw atebion mewn llais uchel a dealladwy; (3.) Y tân ar yr allor, yr hwn a ddisgynodd o'r nefoedd, ac a ysodd yr aberth; (4.) Y Secina, neu y presennoldeb dwyfol, yr hwn a ym- ddangosai fel cwmwl goleu a gogoneddus uwch ben y drugareddfa; (5.) Ysbryd prophwydoliaeth, yr hwn a orphwysai mewn dull neillduol ar y dynion a elwid i'r swydd brophwydoliaethol. Y pethau hyn oeddynt brif ogoniant teml Solomon; ond collwyd hwynt yng nghaethiwed Babilon, ac ni adferwyd hwynt i'r ail deml, yr hon a adeiladodd Sorobabel. Er mai nos dywell oedd cyfnod y caethiwed, eto ser o'r maintioli mwyaf a ddysgleiriai y pryd hwn yn ffurfafen yr 18—Meheýn, 1868.