Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I (ÇSpiIl ^iìwtMt YR EGLWYS WYDDELIG. Yr Eglwys yn yr Iwerddon ÿdyw prif bwnc y dydd yn bresennol. Mae hwn wedi llyncu i fyny yr holl bynciau ereill yn y Senedd. Hwn yw unig destyn yr esgynlawr, a phrif destyn yr areithfa a'r seiet. Mae Crist a'i Groes wedi cael eu rhoddi o'r neilldu. Gladstone yw eu Gwared- wr o Bentecost i Basc. Mae deisebu i'r Senedd wedi cymmeryd lle y cyfarfod gweddi; ac y mae galw am attodiad i'r Jlyfrau hymnau, er cael caniadau am gwymp yr Eglwys ac enw Gladstone ynddynt. Dyma destyn yr ymddyddan yn amser boreufwyd, yn lle Beibl a gweddi. Ac ar bryd cinio, yr Eglwys a'i chwymp sydd yn lle gras abendith. Braidd nad elid oddi ar ginio â'r gaib o dan sylfaen y Llan, rhag i'r (iwyddel a'r Pabydd gael y blaen ar y Cymro a'r Ymneilldüwr. Mae rhai fel pe baent wedi ynfydu, ac arnynt chwant gwneuthur rhyw wrhydri. Yr ydym yn gweled ambell un yn neidio aç yn dawnsio, fel pe bai blwycdyn Iwbili eu holl obeithion ẁedi gwawrio. Y maent ar yr esgynlawr fel rhai wedi derbyn dawn i lefaru â thafodau dyeithr; o'r hyn lleiaf, Hefarant bethau dyeithr, nad yw neb yn eu deall, a phethau nad ydynt yn eu deall eu hunain. Mae dyn na rìdarllenodd hanes yr Eglwys ärioed, ar unwaith yn dyfod yn hyddysg, yn ei dyb ei hun, yn ei holl groniclau, ac yn adrodd fel ffeithiau yr hyn na u erioed. A digrif ei glywed yn dyweyd, mewn gwirion- 3eb, gyda'r sobrwydd mwyaf, mai tri chant oed yw'r Eg- wys, ac nad yw hi ddim llawer dros ddau cant yn hŷn na VIethodistiaeth. Nid annhebyg yw i'r plentyn hwnw a iynai wrth glywed fod y byd wedi eì greu fiynyddau o laen hen wr ei darìcu. Mae'r pwnc yn un pwysig; ond y nae ei bwysigrwydd yn galw am bwyll ac arafwch wrth. ^radrin ag ef. Mae'r Ymneillduwyr yn methu deall pa 17—Mai, 1868.