Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gj[aül ŴglîDjaij. ESRA. Esra oedd ddyn hynod yn ei oes, ae a wnaeth bethau mawrion yn ei ddydd. Offeiriad oedd o hiliogaeth Seraiah, yr hwn oedd archoffeiriad y genedl pan gymmerwyd Ierw- salem gan y Caldeaid, a'r hwn a laddwyd gan Nebuchod- onosor, brenin Babilon, yn Riblah. (Ier. lii. 24—27.) Esra a anwyd ym Mabilon, ac a ddaeth i Ierwsalem, efe a lluaws o'i gydgenedl o dan nawdd ac yn ol gorchymmyn Artacsercses, brenin Persia, yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad. Y brenin a gyhoeddodd ryddid i bawb o'r Iuddewon a ewyllysient fyned gydag Esra i wlad eu hetifeddiaeth; efe a roddodd i Esra aur ac arian, ac anrheg- ion gwerthfawr ereill, i "harddu ty ei Dduw;" ac efe a'i gwisgodd ag awdurdod i osod swyddogion a barnwyr yn y wlad, i farnu yr holl bobl, ac i'w cospi naill " ai i farwolaeth, ai i ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar." Ac felly efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr y wlad. Sorobabel, Esra, a Nehemüah a fuont yn olynol yn llyw- odraethwyr Iwda, trwy benodiad ac o dan nawdd brenin- oedd Persia. Sorobabel a ddaeth i fyny i Ierwsalem yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus ; Esra yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artacsercses Longimanus; a Ne- hemîah yn yr ugeinfed flwyddyn o deyrnasiad yr un brenin. Ac felly cyfrifir fod Sorobabel o ddeutu deg mlynedd a thrigain o flaen Esra, ac Esra o ddeutu tair blynedd ar ddeg o flaen Nehemîah. Sorobabel a adeilad- odd y deml; Esra a adferodd yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac a'u dysgodd i'r bobL ac a ddiwygiodd eu moesau; Nehem- ìah a adeiladodd furiau Ierwsalem; ac yn debyg i Esra oedd ddiwygiwr crefydd a moesau. Ac Esra, fel Sorobabel a Nehemîah, oedd gymhwys i'r gwaith oedd i'w gyflawnu. 15—Mawrth, 1868.