Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(^gfEiII (Sglttigaig. NEHEMIAH. Nehemiah oedd ddyn da a duwiol, yn ofni Duw, yn caru ei wlad, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni; ac yr oedd yn ddyn medrus a galluog, yn ddewr ei galon, yn benderfynol ei feddwl, ac yn nerthol mewn gweithred. Efe a wnaeth bethau mawrion dros ei wlad a'i genedl yn ei ddydd—efe a adgyweiriodd furiau Ierwsalem, a ddiwygiodd gam- arferion a ffynent ym mhlith y bobl, ac a adferodd dde- fodau crefydd. Yr oedd yn wladgarwr yn ystyr uchaf a goreu y gair: penodwyd ef yn llywodraethwr Iwdah gan frenin Persia, ac efe a ddaeth i Ierwsalem i geisio yn y modd mwyaf effeithiol " ddaioni i feibion Israel." " Daioni" ei wlad a'i genedl oedd y gwrthddrych agosaf at ei galon, a dyben penaf ei fywyd; ac yn ei ymdrech i gyrhaeddyd yr amcan hwn efe a adawodd esampl, yr hon y byddai yn ddoeth mewn breninoedd a phawb sy mewn goruchafiaeth ei hefelychu. 1. Efe a welodd achos adfyd ei wlad; efe a ganfa ffyn- nonell y drwg; deallodd mai pechod oedd y "gwreiddyn chwerwedd" ag oedd gwedi peri fod ei genedl "mewn bhnder mawr a gwaradwydd," a bod " muriau Ierwsalem gwedi eu dryllio, a'i phyrth gwedi eu llosgi â thân." Yn y weddi a adroddodd ei wefusau cyn myned i mewn at y Brenin efe a ddywedodd:—" Myfi a thy fy nhad a bech- asom; gwnaethom yn llygredig iawn i'th erbyn, a ni chadw- asom y gorchymmynion, na'r deddfau, na r barnedigaethau a orchymmynaist i Moses dy was." Yr oedd gwedi deall mai cywilydd, gwarth, a dinystr cenedl yw pechod. 2. Efe a gymhwysodd y wir feddyginiaeth at y clwyf: fel y deallodd achos y drwg, felly canfu foddion gwellâd, a defnyddiodd y moddion yn effeithiol. Efe a ymprydiodd ac a weddiodd ger bron Duw y nefoedd; efe a ddiwygiodd U—Chwefror, 1868.