Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfain Ŵíl»j»ífl. CYDIAD Y DDWY FLWYDDYN. Ab gydiad y ddwy flwyddyn tueddir ni i edrych yn ol ac i edrych ym mlaen—i edrych yn ol ar yr hen flwyddyn yr hon sydd wedi terfynu, yr hon sydd wedi myned ac ni ddychwel mwy—ac edrych ym mlaen ar y flwyddyn newydd yr hon sydd wedi dyfod, a'r hon yr ydym, os myn Duw, i dreulio ac i ddefnyddio. Wrth edrych yn 61 ar yr hen flwyddyn, gwelwn rai pethau ag sydd yn achosi galar a thristwch i ni—gwelwn ddiffyg sel a diwydrwydd yn achos Duw; yr ydym yn cofio mai oer fu ein calon, a difater fu ein meddwl yn ei was- anaeth Ef; a dichon y cofiwn am bechodau a gyflawnwyd, am fendithion a ddirmygwyd, am gyfleusderau a esgeulus- wyd, ac am ragorfreintiau a ddiystyrwyd. . Ef alíai fod dyddiau a nosweithiau yn yr hen flwyddyn wedi eu hynodi gan ein pechodau. Meibion Israel yn yr anialwch nis gallent lai na ehofio wrth edrych yn ol ar eu taith yn yr anialwch am Massah a Meribah, lle y temtiasant Dduw ac yr ym- gynhenasant â Moses; ac am Kibroth-hattaafah, lle y blysiasaut am gig, ac yr ennynodd digofaint yr Arglwydd yn eu herbyn. Pechodau y bobl a roddodd enwau i'r lle- oedd hyn, ac ef allai fod manau mewn cyssylltiad â'n hanes ninnau yn y flwyddyn ddiweddaf a ellid yn briodol eu galw yn Massah temtiad—Meribah cynhen, a Kibroth- hattaafah—beddau y blys, lleoedd ym mha rai y temt- iasom Dduw, yr ymgynhenasom â'i Air, ac y darfu i ni wrth ein blys foddloni a chyflawnu chwantau y cnawd. Am y pethau hyn dylem alaru; maent yn galw arnom i edifeirwch; os doeth ydym, ni a'u cyffeswn ger bron Duw, ac a weddiwn arno Ef am faddeuant o honynt. Ac ym mhellach, os edrychwn yn ol, gwelwn brofion fod Duw yn ymryson â ni yn ei ragluniaeth—ei fod yn ein 13—Ionawr, 1868.