Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$íf»HI Ẃgltüjaifl* GWASANAETH YR EGLWYS. Y CYMMÜN. Yr ydym yn awr wedi dyfod at y rhan o'r gwasanaeth ag sydd yn dilyn gweinyddiad y Cymmun, a hon fydd ein llith olaf. Yr ydym yn darllen i Grist, ar ol gweinyddu y Swper Sanctaidd i'w ddysgyblion, offrymu gweddi, sef Ioan xvii., a chanu hymn : " Ac wedi iddynt ganu hymn hwy a aethant allan i Fynydd yr Olewwydd." Mat. xxvi. 30. Mae yr Eglwys o'r dechreuad wedi dilyn esampl ei Phrynwr bendigedig yn hyn, trwy offrymu gweddiau a moliant ar ol cyfranogi o Swper yr Arglwydd: mae'r hen Esgob Cyril yn gorchymmyn i'r Cymmunwyr beidio myned allan yn union ar ol derbyn y Cymmnn, ond aros i'r weddi, a thalu diolch i Dduw am ei gyfrif yn deilwng o gyfranogi o ddirgeledigaethau mor fawr. Mae'r rhan o'r gwasanaeth o fiaen gweinyddiad y Cym- mun yn dechreu gyda Gweddi yr Arglwydd; felly y mae'r gwasanaeth ar ol y gweinyddiad hefyd yn dechreu gyda Gweddi yr Arglwydd, gyda hyn o wahaniaeth: o fiaen y Cymmun y mae'r weddi heb y fawl-wers ; ar ol y Cymmun, y mae'r fawl-wers, sef " Canys eiddo Ti yw'r deyrnas, &c," yn rhan o'r weddi. Y rheswm o hyn yw, fod y gwasanaeth o flaen y Cymmun yn gynnwysedig yn benaf mewn ymostyngiad ac edifeirwch ; a'r gwasanaeth ar ol y Cym- mun mewn mawl a diolchgarwch. Yna y canlyn dwy weddi; arferir y naill neu'r llall, yn ol dewisiad yr offeiriad. Y mae'r gyntaf wedi ei seilio ar gynghor yr apostol Paul i'r Eglwys yn Rhufain. "Am hyny yr wyf yn atolwg i chwi frodyr, er trugareddau Duw, roddi o honoch eich cyrff yn aberth byw." Y mae yn ddyledswydd arnom gyssegru ein hunain i Dduw bob amser, eto ni a ddylem yn benaf wneuthur hyny wedi bod yn 12—Ehagjyr, 1867.