Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<Í8J[aUl ŴjjlroijBifl. Y CYFARFOD EGLWYSIG YN WOLVER- HAMPTON. Trep fawr, boblog, ydyw Wolverhampton, yn swydd Stafford, gwlad y glo, yr haiarn, a'r llestri pridd. Yn y dref hon y cynnaliwyd y cyfarfod mawr eglwysig eleni, ar y pedwar diwrnod cyntaf o fis Hydref. Hwn ydoedd y seithfed cyfarfod o'r fath. Cadwyd y cyntaf yn 1861 yng Nghaergrawnt, yr ail yn Rhydychain, y trydydd ym Manceinion, y pedwerydd yug Nghaerodor, y pummed yn Norwich, y chweched yng Nghaerefrog. a'r seithfed eleni yn Wolverhampton. Cedwir ef y flwyddyn nesaf naill ai yn Dublin neu yn Llundain. Dywedir bod y cyfarfod diweddaf yn fwy llnosog, yn fwy bywiog, ac yn fwy llwyddiannus ua'r un a fu o'i flaen. Yr oedd llawer ar y cyntaf yn ofni y byddai cyfarfodydd o'r natur hyu yn troi yu fethiaut, ac na wnaent ateb un dyben da. Eithr erbyn hyn, addef pawb fod tuedd yuddynt i wneuthur daioni dirfawr, trwy ymddyddan yn rhydd a rhwydd ar bynciau eglwysig, meithrin bywyd yn yr Eglwys, a gwneuthur egwyddoriou yr Eglwys yn fwy adnabyddus i bob dosbarth yn y deyrnas. Dydd Mawrth, Hydref laf, dechreuwyd y cyfarfod trwy gynnal Gwasanaeth a Chymmundeb yn Eglwys Sant Pedr. Daeth yr esgobion a'r offeiriaid yug nghyd i'r ysgoldy, ac aethant yn orymdaith, yn eu gwisgoedd gwyniou, o'r ys- goldy i'r Eglwys. Yr oedd yno dros ddeg ar hugain o esgobion yn wyddfodol, o w-ahanol ranau o'r ddaiar; ac yr oedd ym mron yr holl dref wedi troi allan i weled yr orymdaith. Yr oedd Eglwys eangfawr Sant Pedr yn llawn, a llawer iawn yn methu cael lle o fewn ei magwyr- ydd. Dr. Goulburn, deon Norwich. draddododd y bregeth oddi ar Rhuf. iii. 28: "Yr ydym ni, gan hyny, yn cyfrif 11—Tachwedd, 1867.