Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$ÎJf»HI Ŵfllíüpifi. HOLWYDDOR AR AIL DDYFODIAD CRIST. (Állan o waith y Parch. Griffith Jones.) Goftniad. Beth y w'r seithfed pwnc o'r Credo ? Ateb. Y seithfed pwnc sydd yng nghylch ail ddyfodiad Crist o'r nefoedd: "Oddi yno y daw i farnu byw a meirw." G. Pa bethau sydd i'w hystyried yn y pwnc hwn ? A. Pedwar peth. 1. Pwy sydd yn dyfod, sef yr Ar- glwydd Tesu. 2. 0 ba le y mae yn dyfod, sef o'r nef, lle y mae Efe ar ddeheulaw Üuw. 3. I ba beth y mae yn dyfod, sef i farnu. 4. I farnu pwy, sef y byw a'r meirw. G. Pa sicrwydd sy genych y bydd dydd o farn ? A. 1. Mae Duw ei Hun wedi ordeinio dydd o farn, ac ni ddiddymir y peth y mae Duw wedi ei arfaethu. Actau xvii. 30, 31: "ADuw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awr hon yn gorchymmyn i bob dyn ym mhob man edifarhau; o herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna Efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y Gwr a ordeiniodd Efe." 2. Mae yn angenrhaid bod dydd o farn, er mwyn gwobrwyo'r duwiol sydd yn awr yn dyoddef, a chospi yr annuwiol sydd yn esmwyth arno yn y byd hwn. 2 Thes. i. 5—7: " Yr hyn sydd argoel goleu o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon ydych hefyd yn goddef: canys cyfiawn yw ger bron Duw, dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi; ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol." G. Onid yw'r duwiol a'r annuwiol yn derbyn barn neillduol pan y maent yn marw? A. Mae yn ddiammheu y bernir pob dyn, ar ei farwol- aeth, i fyned yn ddiattreg, naill ai i ddedwyddwch neu i 10—Hydref, 1867.