Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfgfaill (ígliüíatj. DIOLCHGARWCH AM Y CYNAUAF. Cwyn yr Arglwydd yn erbyn Israel gynt ydoedd, nad oeddynt yn gweled llaw y Rhoddwr yn ei roddion: "Acni wyddai hi mai myfi a roddes iddi yd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a'i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal." Y modd y dysgai Efe y wers iddynt ydoedd trwy gymmeryd y pethau hyn oddi arnynt. "Am hyny y dychwelaf, a chymmeraf fy yd yn ei amser, a'm gwin yn ei dymmor, a dygaf ymaith fy ngwlan a'm llin a guddiai ei noethni hi." Yn gyffredin eto, nid ydym yn gweled mor werthfawr ydyw doniau Duw nes y byddom wedi eu colli. Ar eu hymadawiad, y mae eu gwerth yn dyfod i'r golwg; nid jrw'r cyfoethog yn gweled gwerth golud yn iawn. nes y cymmero'r golud adenydd ac ehedeg ymaith: nid yw'r iach yn gweled gwerth iechyd, nes y byddo'r iechyd wedi cilio: nid yw miloedd yn gweled gwerth cadwedigaeth, nes y byddo'r cynauaf wedi myned heibio, a'r haf wedi darfod. Mae edrych ar ereill yn amddifad o'r bendithion ag yr ydym ni yn eu mwynhau, weithiau yn peri i ni eu gwerthfawrogi, a theimlo yn ddiolchgar am danynt. Mae yr olwg ar y noeth, a'r newynog, a'r dall, a'r byddar, a'r mudan, a'r cloff, a'r claf, a'r gwallgofddyn, yn creu teimlad o ddiolchgarwch yn ein mynwesau, am fod genym ddillad i wisgo, bara i fwyta, llygaid i weled, clustiau i glywed, tafod i lefaru, traed i gerdded, iechyd heb ei golli, a syn- wyrau heb eu dyrysu. Yn ol yr egwyddor hon, dylai yr hyn a glywsom ac a ddarllenasom eleni am y newyn du yn Orissa bell, yn yr India Ddwyreiniol, gynnyrchu ynom ni deimladau brwd o fawl i Dduw am y cynauaf da, y cnydau toreithiog, yr hin dymmerus, yr ysguboriau llawn, a'r bara heb brinder. Yr 9—Medi, 1867.