Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

% <$gjfaiîl (Sgtuîpijg. GWASANAETH YR EGLWYS. Y CYMMUN. Gwedi casglu offrymau y bobl, a'u dodi ar y Bwrdd Sanctaidd, yr hyn a arwydda eu bod yn cael eu cyflwyno i'r Arglwydd, ac wedi gosod y bara a'r gwin ar y Bwrdd, yna y dywed yr offeiriad, " Gweddiwn dros holl ystâd Eglwys Crist sy'n milwrio ar y ddaiar." Clywsom am offeiriad yn sir Aberteifi, hen mewn dydd- iau, yr hwn, er ys blynyddaa lawer, sydd wedi myned at yr Eglwys orfoleddus, ag oedd wedi myned i gyfarfod misol, lle y dymunwyd arno bregethu: yr oedd yntau, o herwydd ei henaint a'i fethiant, am gael ei esgusodi y diwrnod hwnw, ac i rywun arall, â mwy o nerth ganddo, gymmeryd ei le. Er hyuy, atolygwyd arno i ddy wedyd ychydig, am na fyddai y bobl yn foddlawn ei weled yn ymadael heb glywed rhyw gynghor o'i eneu. Aeth yr hen wr i fyny i'r pulpud, gweddîodd, a rhoddodd ychydig gynghorion dwys a gwresog iddynt. Ar ol dyfod allan, yr oedd y bobl yn siarad am ei weddi o flae'n y bregeth, ac yn dywedyd na chlywsant y fath weddi erioed o'r blaen : yr oedd hi mor drefnus, a chynnwysfawr, ac ysgrythyrol. Yr oeddynt hwy yn meddwl mai gweddi " o'r frest" oedd hi, hyd nes y dangosodd y ficer y weddi iddynt yn y Llyfr Gweddi: a'r weddi sydd genym yn awr dan sylw oedd y weddi. Dengys yr hanesyn uchod nad oedd offeiriad y plwyf hwnw yn arfer y weddi hon yng Ngwasanaeth y Cymmun, onid e ni buasai mor ddyeithr i'r bobl: a rhaid addef, fod llawer o offeiriaid yn bresennol yn ei hesgeuluso: oud pan fyddont yn gweini y Cymmun Sanctaidd, dechreuant gyda'r anerchiad, " Chwychwi," &c. Mae rhyw reswm dros adael heibio yr anerchiad, " Fy anwyl garedigion frodyr," &c, pan fyddo pregeth, o blegid ei fod wedi ei 8— Awst, 1867.