Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWASANAETH YR EGLWYS. Y CYMMUN. Yr ydym yn dyfod yn awr at yr Offrymiad. Yr oedd offrymu rhoddion yn rhan o gyfraith Moses; ac y mae yn hen arferiad yn yr Eglwys Gristionogol. Ar y gwyliau arbenig, gorchymmynid i'r Iuddew beidio ymddangos o flaen yr Arglwydd yn waglaw: "Pob un yn ol rhodd ei law, yn ol bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a roddes Efe i ti." Cymmerai yr Iesu yn ganiataol fod pob un a ddeuai at yr allor, yn dyfod â rhodd ganddo: "Gan hyny, os dygi dy rodd i'r allor," &c. Pan ddywedodd yr Iesu wrth Iwdas, " Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys," tybiodd rhai o'r dysgyblion ei fod yn dywedyd wrtho ar roi o hono beth i'r tlodion, am fod Iwdas â'r god ganddo. Y mae yn amlwg, oddi wrth hyn, fod yr Iesu, er ei fod yn byw ar gyfraniadau ereill, yn arfer cyf- ranu ychydig elusen i'r tlodion, o'r god a gedwid gan Iwdas. Cesglir hefyd oddi wrth hyn, fod yr Iuddewon yn arfer offrymu at angenrheidiau y tlodion ar wyl y Pase. Ar ol dydd y Pentecost, yr oedd y teimlad o gariad brawdol mor gryf, nes y gwerthasant eu da, ac y rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb; a thebygol mai ar amser toriad y bara, sef yr amser y cyfranogent o Swper yr Arglwydd, y dygent werth y tai a'r tiroedd, ac eu gosodent wrth draed yr Apostolion. Yn y brif Eglwys, yr oedd pob un yn offrymu rhodd wrth ddyfod at Fwrdd yr Arglwydd; ac os na chyfrifid dyn yn gymhwys i dderbyn o Swper yr Arglwydd, ni dderbynid ei offrwm, Yn yr hen amser gynt, o offrymiadau y bobl y telid cyf- logau yr offeiriaid, y cynnelid y Gwasanaeth Dwyfol, ac y rhoddid cardod i'r tlodion. Mae yr arfer apostolaidd o offrymu ar y dydd cyntaf o'r wythnos yn cael ei adferu yn awr mewn Uawer o Eglwysi. Mae yr offeiriad, mewn 7-~Gorp7ienaf, 1867.