Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(ÇfcjfaiU ŵfltDtstj. CYFIAWNHAU. Mae i'r gair " cyfiawnhau," neu "gyfiawnhâd," ystyr* neillduol a phriodol yn yr Ysgrythyrau. Golyga, nid gwneuthur dyn yn gyfiawn egwyddorol, ond ei gyfrif yn gyfiawn mewn ystyr gyfreithiol. Mae yn wir y gwneir y dyn a gyfiawnbëir yn gyfiawn o ran egwyddor ac ymar- weddiad; ond defnyddir geiriau ac ymadroddion yn yr Ys- grythyrau amgen na'r gair "cyfiawnhau" i ddangos y gwaith hwn; megys, "geni drachefn," "adgenëdlu," "creu o'r newydd," "sancteiddio," "bywhaugyda Christ," "dodi y gyfraith yn y meddwl, a'i ysgrifenu ar y galon," "enwaedu y galon," "tynu y galon gareg o'r cnawd, a rhoddi calon dyner o gig yn ei lle," a'r cyffelyb. Ygair "cyfiawnhau" a gyfeiria, nid at feddwl a theimlad y credadyn, ond ei sefyllfa ger bron gorseddfainc Duw, fel deiliad o'i lywodraeth foesol. Mae yn air a ddefnyddid mewn llysoedd barn; felly dywed Moses, "Pan fyddo ym- rafael rhwng dynion, a dyfod i farn i'w barnu, yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius."—Deut. xxv. 1. Ac felly yr Argìwydd Iesu, gan gyfeirio at ddydd y farn, a ddywedj " Wrth dy eiriau y'th gyfiawn- hëir, ac wrth dý eiriau y'th gondemnir."—Mat. xii. 37. Mewn llys barn nid yw y barnẅr yn gwneuthur rieb yn gyfiaẃn, ond os cywir y ddedfryd, mae yn cyhoeddî yn gyfiawn y dieuog. Yn nydd y farn ni fydd neb yn cael eu gwneuthur yri gyfiaẃn, ond cyhoeddir yr holl saint yn gyfìawn. Ac felly mae Sant Paul, wrth lefaru am gyfiawn- hâd pechadur ger bron Duw, yn defnyddio y gair weithiau mewn cyferbyniad i gyhuddiad; megys, " Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Düw yw yr hwn sydd yn cyfiawnhau" (Rhuf. viii. 33); ac weithiau mewn cyfer- byniad i'r gair condemniad; megys, " Y farn a ddaeth o un 6—Mehe/in, 1867.