Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| dfjfaill Ŵÿlflgaifl. DYDD IAU Y DYRCHAFAEL. Enaid! dos heddyw gyda'r dysgyblion, a dring i ben Mynydd yr Olewwydd, a gwel dy Geidwad, y waith olaf ar y ddaiar, yn ymddyddan â hwynt, yn dyrchafu ei ddwylaw, ac yn eu bendithio hwynt, ac yna yn esgyn i fyny, a'r cwmwl yn ei dderbyn Ef allan o'u golwg hwynt. Cofia mai ar gyfenw y dydd heddyw, ddeugain niwrnod ar ol ei gyfodiad o'r bedd, yr aeth yr Iesu, a fu dan waradwydd ar y groes, i mewn i'w ogoniant, ac yr eistedd- odd ar ddeheulaw Duw. Efe a aeth i mewn i'r cyssegr, nid trwy waed geifr a Uoi, eithr trwy ei waed ei Hun. Gan fod Duw wedi ei dra-ddyrchafu, a rhoddi iddo enw, yr hwn sy goruwch pob enw, cofia dithau blygu glin yn enw Iesu, a'i gyffesu yu Arglwydd, er gogoniant Duw Dad. Er ei fod wedi esgyn goruwch yr holl nefoedd, nid yw gywilyddus ganddo alw ei bobì ar y ddaiar yn frodyr. Cofia dithau, er dy fawr gysur, fod i ti Frawd o blith y brodyr, yn Eiriolwr gyda'r Tad, lesu Grist y Cyfiawn; ac Efe yw yr iawn dros dy bechodau. Y mae Efe yn byw bob amser i eiriol dros y rhai sydd yn dyfod at Dduw trwyddo Ef. Cofia, gan hyny, enaid gwerthfawr, geisio y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhodda dy serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaiar. " Esgynodd Crist, ein Ceidwad mawr, Goruwch y nef mae'n Ben; Heddychodd Ef y nef â'r llawr, Trwy farw ar y pren. " Mae yno'n eiriol drosom ni, Ar sail ei aberth drud; Boed iddo glod, a mawl, a bri, Gan holl dylwythau'r byd." 5—Mai, 1867.