Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfain Ŵjlffgsij). DYDD GWENER Y CROGLITH. Enatd ! cofia heddyw am Lith y Grog—Gwers y Groes. Ar gyfenw'r dydd heddyw y rhwymwyd dy Geidwad; y safodd Ef o flaen Annas a Chaiaphas, Herod a Phontius Pilat; y gwawdiwyd ac y dirmygwyd Ef; y poerwyd yn ei wyneb bendigedig, ac y gwnawd cwysau ar ei gefn; y gwisgwyd Ef yn y wisg borphor, ac y coronwyd Ef â'r goron ddrain; y dygodd Ef y groes, ac yr hoeliwyd Ef draed a dwylaw arni. Duodd y nefoedd, crynodd y ddaiar, holltodd y creigiau, agorodd y beddau. Enaid! er dy fwyn di y bu hyn. Efe a ddyoddefodd i ti gael teyrnasu: Efe a ddygodd y groes i ti gael gwisgo'r goron: Efe a roddodd ei einioes i lawr i ti gael bywyd tragwyddol. Saf; diosg dy esgidiau oddi am dy draed; gad ofalon a phleserau'r byd o'r neilldu: tro i edrych ar y weledigaeth fawr hon; gwel ei ben; gwel ei ddwylaw; gwel ei draed; gwel ei waed. Dyma Efe yn llefain; clyw, gwrando:— "Onid gwaeth genych chwi, y fforddolion oll? gwelwçh ac edrychwch, a oes y fath ofid a'm gofid I, yr hwn a wnaeth- pwydiMi?" DYDD PASC. Enaid ! cofia fod y dydd hwn yn ddydd mawr yn Eglwys Dduw, yn ddydd uchelwyl yn Sîon; brenines y gwyliau ydyw. Ar y dydd hwn y daeth "Craig o graig yn rhydd;" y cyfododd dy Geidwad o'r bedd, a'th Brynwr o blith y meirw, ag agoriadau uffern a marwolaeth wrth ei wregys. A chan fod yr agoriadau ganddo, Efe a all, pryd yr ewyllysio, ddadgloi'r dorau a'th ddwyn dithau i fyny. Na fydd absennol er dim heddyw o blith dysgyblion yr Iesu, rhag ofn i ti syrthio, a bod yn hir o dan draed anghred- iniaeth. Dos at y Bwrdd Sanctaidd, fel yr adnabyddot Ef yn well "ar doriad y bara." Edrych arno a gwel ol i—Ebrül, 1867.