Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÍÍJfaiU Ẅglwjaij. TAITH TRWY GANAAN. PENNOD III. Y mab yn foreugwaith hyfryd, onid yw? Nid wyf yn cofio i mi weled y fath olygfa ardderchog erioed o'r blaen. Onid oes golwg ogoneddus ar deyrn y dydd yn dyfod allau o'i ystafell aur, neu wedi ymdrochi yn y môr, ac yn ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa, a'i " Wrid yn ymlid y nos O'i ddorau yn ddiaros?" Y blodau ar hyd y meusydd yn ymagor, a'r adar yn canu eu cerddoriaeth er ei roesawu; y cornentydd murmurog yu ymddoleni, a natur megys wrth ei bodd. Ondrhyfedd byth mor hwyrfrydig yr ydym ni i fyned at ëin dyled- swydd. Bydded i ni ddysgu gwers yn y fan hon oddi wrth natur, a diolchwn i Dad y trugareddau am ei holl ddaioni i ni, feibion dynion, a'i fendithio am ein creadig- aeth, am ein cadwraeth, ac am holl fendithion y bywyd hwn. Yn awr, gan fod y boreufwyd drosodd, a phob peth yn barod i'r daith, ni a gyfeiriwn ein caravan ar draws y wlad i'r dwyrain o Tyrus, ac wedi teithio rhyw ugain milltir, wele ni yn esgyn crib y mynydd sydd yn cy- nghroesi y wlad. Onid oes golygfëydd arddunol yma? Ni flina y llygad byth ar y fath ardduuedd a phrydferth- wch. A gawn ni esgyn i'w ben? Cawn; a thra bydd Sam yn diogelu y mulod, ac yn parotoi ychydig adloniant, awn hyd at yr adfeilion acw. Wel, dyua Munarah; a gallwcn fod yn eithaf sicr fod y gylcholygfa o'r fan hon yu llawer mwy ardderchog ao eang na chylcholygfëydd Moses o ben Pisgah. I fyny i'r gogledd yna, wele Libanus â'i gopa gwyn. O'n blaenau y mae gwastadedd yr Huleh, yn rhyw 1500 troed- ^—Matorth, 1867.