Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dJiiUiii igiuîpij. TAITH TRWY GANAAN. PENNOD II. Wel, gan ein bod wedi mwynhau ychydig seibiant er pan y buom yng nghymmydogaeth Dan, gwnawn droi tua'r gorllewin ychydig yn awr; ac 0, onid golygfa ardderchog yw yr hon sydd yn ymgodi o flaen ein llygaid—rhes ogoneddus o fynyddau, a'u copäu yn cusanu y cymylau. 0, îe, dacw fynydd Libanus, yr hwn a ddygir mor aml o'n blaen yn yr Ysgrythyrau. Onid yw yr olwg arno yn bryd- ferth?—ei gadwyn serenog megys am ei wddf, a'i ddiddosben dragwyddoí o eira. Mae yn ymddangos fel rhyw deyrn anrhydeddus y bydyssawd—ei ben yn y nef, a'i draed yn y môr. Ac er ei fod wedi ei eillio bron yn llwyr o'i bryd- ferthion boreuol, eto y mae yn werth cryn lawer ei deithio; o blegid hwn yw y "mynydd da hwnw" y clywodd yr Is- raeliaid gymmaint o son am dano yn yr anialwch, ac y dymunai Moses mor daer ei weled yn y geiriau hyny, "Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a'r mynydd da hwnw, sef Libanus." Deut^ iii. 25. Wel, yn awr, gan ein bod wedi cyrhaedd hyd ato, gwnawn ymdrech er ei ddringo; ond cofiwch, gyda 1law, gyfeillion, rhaid i chwi fod yn dra gofalus, canys y mae Uithriadau peryglus oddi tanom. . Dywed un awdwr i un uchrodfa dybeisiawl, yn agos i'r fan lle y safwn ni yn bres- ennol, tua rhyw gan mlynedd yn ol, ar yr hon yr oedd pentref bychan, ymddattod oddi wrth gorff y mynydd, a llithro i waered fel rhyw avalancke ofnadwy, gan gludo gydag ef dai, gerddi, a choedydd anferth, gyda thwrf echrydus, i waelod y dyffryn. Ond am gedrwydd Libanus, nid yw yn debyg y gwelwch chwi ryw lawer o rai ar- dderchog o honynt. Ond hyn a wyddom, sef eu bod wedi dyfod yn ddiarebol am eu henwogrwydd; yr oeddynt yn 2—Chwefror, 1867.