Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(laflaill <&$lw%*i%. TAITH TRWY GANAAN. Mab yn wirionedd safadwy, nad oes yr un wlad yn ein byd bach ni yn dwyn cymmaint o ddawn i'r Cristion, ac yn neillduol i'n hathrawou yn yr Ysgolion Sul, yng nghyd â'r plant, na'r wlad hòno lle y preswyliodd yr hen batriarch- iaid, y prophwydodd lluaws o'r prophwydi, y pregethodd yr apostolion, ac y cafodd Arglwydd y Bywyd ei hunan ei eni, tabernaclu, a marw ynddi. Yn wir, y mae pob golygfa yn y wlad hòno yn orlawn o addysg: nid oes na bryn, na nant furmurog nad ydynt yn feichiog o wersi buddiol i'r credadyn, ac hefyd i'r to sydd yn cyfodi. Yn awr, Mr. Gol. (os boddhaol genych chwi), gan fod y wlad grybwylledig yn dal cyssylltiad mor agos ac anuattodol â ni fel plant y Beibl, yr ydym yn bwriadu, gyda chwmni dai'llenwyr y Cyfaill, ac arbediad bywyd gan Dad y Trugareddau, i ymdeithio y flwyddyn newydd yng ngwlad y Beibl. Ehaid i ni gofio, gyda llaw, bod y wlad hòno gryn bellder o ffordd o fynyddoedd cribog Gwalia; ac o ganlyniad, rhaid bod yn dra brysiog i fyned tuag yno, a pheidio aros i syllu ar y gwledydd hyny fyddwn yn myned heibio iddynt; eithr yn gyntaf, ni a gymmerwn wibdaith am draws Ffrainc, a thros fjmyddau uchel yr Alpau, trwy Switzerland, yr Eidal, a Thwrci Fahometaidd; ac yn awr, wele ni yug nghwr pellaf Môr y Canüldir. Y wlad acw sydd yn ymestyn o'n blaeuau, o du'r dwyrain, )^w y wlad yr ydym ni yn bwriadu ei theithio. Yn awr rhaid dysgwyl am le i dirio; o îe, dacw y dref, mae y tai wedi eu hadeiladu ar lechwedd y bryn sydd yn ymestyn allan i'r môr, ac o'r braidd wedi eu hamgylchu â dwfr. Castell yw yr adeilad acw sydd ar ben y bryn, ac wrth ei odreu wele fur go uchel, ac yn erbyn yr hwn yr j'mluchia y môr yn gynddeiriog ofnadwy. Y dref yma yw Ioppa, ac un o'r trefydd henaf yn yr 1—Ionawr, 1867.