Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfüfain #0tttipt0. YR ATHRAW. Y mae pawb bron ag sydd wedi eyrhaedd i oedran pwyll, ac yn troi mewn unrhyw gymdeithas ddynol, mewn ystyr yn athrawon neu ddysgawdwyr; er fod yr enw yn perthyn yn neillduol i'r rhai a gymmerasant arnynt y swydd o ddysgu ereill, naill ai yn barhäus neu yn achlysurol. Y mae i'r enw ystyr cyffredinol ac ystyr neillduol. A chymmeryd y gair yn ei ystyr helaethaf, gellir ei gymhwyso i bob dyn ag sydd gan- ddo unryw ddylanwad ar ei gyd-ddynion neu unrhyw gyfleusdra i'w dysgu trwy gynghor neu esampl. Felly y mae pob tad a mam yn athrawon i'w teulu, pob meistr i'w wasanaethddynion, a phob cymmydog i'r rhai y mae yn ymgymdeithasu â hwynt. Ond y mae rhai yn athrawon o ran eu swydd fwy neu lai. Yn y lle blaenaf, rhaid gosod gweinidogion yr Efengyl, y rhai, i'r dyben o fod yn weinidogion cy- mhwys y Testament Newydd, a ddylent fod beunydd yn ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth. Yn nesaf atynt hwy y daw yr ysgolfeistriaid, ar y rhai y gorphwys y gwaith pwysig a chyfrifol o arwain y meädwl ieuanc pan fo yn dechreu ymagor gyntaf i ystyriaeth—o hau hadau moesoldeb a chrefydd, a phob gwybodaeth fuddiol, cyn caledi o'r tir mewn diofalwch a phechod. A'r trydydd math o athrawon, y rhai hefyd y dymunwn yn benaf eu hanerch yn yr ychydig linellau hyn, ydynt y sawl a arolygant y gwahanol ddosbarth- iadau yn ein Hysgolion Sul. Athrawon yr Ysgol Sul! Goddefwch air o gynghor oddi wrth un ag sydd er ys rhai blynyddau wedi bod yn athraw ei hun. Y mae llawer o honoch yn ddiau, ac ef allai y rhan ftvyaf, yn gwybod mwy am y gwaith naV hwn sydd yn anturio eich hanerch ar hyn o bryd, ond dichon fod ereill yn U—Rhagfyrlò,\m.