Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$g|aiü Ŵjtttjpta. HOLWYDDOR, Neu Addysg ar ddull holi ac ateb, at wasanaeth Ysgolion Sul, wedi ei gymmeryd allan o " Esboniad Byr ór Sacramentau," gan y Parch. Griffith Jones, gynt o Landdowror, gydag ychydig gy/newidiadau. TESTYN—BEDYDD SANCTAIDD. Gofyniad 1. Beth yw Sacramentau? Ateb. Arwyddion neu seiliau o gyfammod Duw, a phethau ysbrydol a ordeiniodd Duw ei hun. G. 2. Pa ham yr ordeiniodd Duw Sacramentau? A. I fod yn arwyddion o bethau ysbrydol, i'w gwneuthur yn eglurach i'n deall ni, i gadw coffa o honynt yn Ëglwys Dduw yn wastadol, i sicrhau i'n ffydd ni y pethau y mae Duw yn addaw, i'n rhwymo i fod yn ffyddlawn yng nghyfammod Duw, i rwymo pobl Dduw i fyw mewn cariad ac undeb heddychol â'u gilydd, ac i wahaniaethu rhwng pobl Dduw ac ereill sydd yn ei wrthod Ef. G. 3. Beth ychwaneg a ystyriwch am Sacramentau? A. Nad oes neb i ordeinio Sacramentau ond Duw ei Hun, a Christ; nad oes neb i weini y Sacramentau ond y rhai a alwyd i swydd y weinidogaeth (Heb. v. 4); mai trwy eu cyssegriad gan Dduw mae y Sacramentau yn fuddiol i ni (1 Cor. iii. 7), ac nad ydynt yn effeithiol i neb a barhao yn annuwiol. (Luc xiii. 26-7.) G. 4. Pa Sacramentau oedd yn seiliau o'r cyfammod gynt? A. Fe ordeiniodd Duw ddau Sacrament yn yr Eglwys Iuddewig, sef Enwaediad, ac Oen y Pasc. (Gen. xvii. Exod. xii.) G. 5. Pa sawl Sacrament a ordeiniodd Crist yn ei Eglwys? A. Dau yn unig, megys yn gyffredinol yn angen- ẁaid. i iachawdwriaeth, sef, Bedydd a Swper yr Arglwydd. 23.—Tachwedd 15, 1863.