Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tfüsfailî ŴglNgaig, GWEITHGARWCH EGLWYSIG. Mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac wedi ei amcanu at rhyw wasanaeth neillduol a llesâd cym- deithasol. Nid oes dim yn byw arno ei hun, nac iddo ei hun. Mae pob peth yn y greadigaeth faterol yn byw ar ereill, ac i ereill. Mae holl lysiau gardd fawr natur yn byw ar eu gilydd, ac i'w gilydd. Mae pob creadur byw mewn rhyw fodd yn byw ar ereill, ac i ereill. Yr un peth ellir ddyweyd am dymmorau'r flwyddyn, ac am y nef a'r ddaiar, am y planedau, ac am yr holl elfenau. Mewn gair nid oes neb na dim yn byw iddo ei hun. Ac fel na all neb fyw arno ei hun, ni ddylai neb amcanu byw iddo ei hun. Yr elfen grefaf mewn pechod yw hunanoldeb, canys beth yw pob pechod ond hunan yn troseddu ar reolau rheswm a gweddeidd-dra. Mae'r hwn sydd yn byw dan lywodraeth hunanoldeb yn llawer mwy parod i dderbyn na rhoddi; yn arwyddo cynnildeb gormodol, ac ysbryd anfoddus, wrth roddi yr hyn sydd ddyledus amo; yn gwylied am gyfieusdra i gribddeilio a threisio meddiannau pobl ereill; yn barod i ddiystyru ereill; yn awyddus am ddyrchafiad gwladol a chrefyddol; yn canmol ei hun; ac yn esgeuluso ei ddyledswyddau cymdeithasol, fel cymmydog, ac yn neillduol fel aelod eglwysig, ac yn aml yn ei berthynas â'i deulu ei hun. O'r tu arall, elfen grefaf duwioldeb yw cariad. Cariad o waith Duw ei Hun. Y brif briodoledd yn Nuw yw cariad. Prif ras y Cristion yw cariad. Y ddysglaid benaf ar fwrdd y wledd dragwyddol yw cariad. A'r elfen grefaf yn nedwyddwch, undeb, gweithgarwch, gogoniant, a llwyddiant yr Eglwys yw cariad. Mae hunanoldeb yn tynu y cwbl ato ei hun. Mae cariad fel y tân a'r haul, yn gwresogi ac yn goleuo 21.—Medi 15, 1863.