Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ítí'aHI Ŵglwjjaig. RHAN Y GYNNULLEIDFA YNG NGWEDDIAU'R EGLWYS.' Eglurwyd natur Addoliad Dwyfol yn ein rhifyn di- weddaf. Yn ol yr eglurhâd a roddwyd, mai nid gwrando yw addoli, ond gweddîo a chanu mawl i Dduw, ni a welwn fod meddwl yr Eglwys a meddwl yr enwadau yn gwahaniaethu yng nghylch y cwestiwn, pa beth ydyw addoli. Credwn fod y gwahauiaeth hyn wedi bod yn rhy fach dan ein sylw ni, Eglwyswyr. Credwn fod Eglwyswyr Cymru wedi cymmeryd eu golygiadau yng nghylch addoli, i raddau mawr, ocldi wrth yr en- wadau. Ond hyderwn fod y wlad yn awr yn dechreu gofyn, pa beth ydyw addoli yn ol meddwl yr Eglwys. Credwn fod cynnulleidfaoedd Cymry yn dechreu agor eu llygaid i weled mai nid yr un peth yn gywir yw myned i'r Eglwys a'r ty cwrdd, ac mai nid yr un gwaith sydd i'w wneuthur yn y ddau le, er fod dynion yn y ddau le yn ceisio ymbarotoi i fyned i'r un nef yn y diwedd. A byddai yn fuddiol iawn i Eglwyswyr pe baent yn deall hyn yn fwy cyffredinol. Canys yn sicr, pa fwyaf y byddo Eglwyswyr yn efelychu yr enwadau yn eu dull o addoli, gallwn ddyweyd, heb deimlo dim ammharch at yr enwadau, mai gwaethaf i gyd i Eglwyswyr. Canys gwell fyddai iddynt fyned i'r ty cwrdd na cheisio efelychu dull y ty cwrdd yn yr Eglwys. Er enghraifft, golyga'r Ymneillduwyr, os nad ydym yn camsynied, mai addoli yw gwrando ar weini- dog, neu ryw un arall yn gweddîo, canu mawl i Dduw, a gwrando'r Gair. Ac yn ddiddadl, y prif beth gyda hwy ydyw'r bregeth. Ychydig o amser, mewn cy- mhariaeth, a dreulir gyda phethau ereill. Ac os ânt i'r Eglwys dan feddwl mai myned i wrando yr ydys, bydd un peth yn sicr o ganlyn, bydd y gwasanaeth vn 20,— Awst 15. 1863.