Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f <$£|aill Ŵgi»j»rg, ADDOLI. Beth a feddylir wrth addoli? Cof genyf i'r cwestiwn gael ei osod i lawr unwaith mewn cyfarfod esbonio Y mae cyfarfodydd o'r fath yn cael eu cynnal mewn manau yng Nghymru mewn tai annedd, mewn ty annedd oedd hwn. Cynnelir hwynt fynychaf gan ychydig o wyr doctoraidd yn y gymmydogaeth. Atebai un mai pregethu oedd addoli. "Wel," meddai un arall, " Os pregethu ydyw addoli, nid oes neb yn addoli ond y pregethwr." Dywedai yr ail, mai darllen y Gair yw addoli. " Yna," ebe'r gwr cyntaf, " Os darllen y Gair yw addoli, nis gall y rhai hyny addoli na fedrant ddarllen." Sylwai'r trydydd, yn hollol sicr yn ei feddwl ei hun, mai gwrando'r Gair yn ddiammheu oedd addoli. Ond dyma un arall yn ei ateb yntau, gan ddywedyd, "Os gwrando'r Gair yw addoli, anaml iawn mae'r pregethwr yn addoli, ac nid yw yn bosibl i'r byddar dalu addoliad y gwrando. Yr oedd y gair addoli yn hollol gynnefin i'r bobl dda hyn, ond yr oedd yr hyn a feddylir wrth addoli yn beth dyeithr iddynt, er eu bod oll yn proffesu bod yn addolwyr Duw. Ar ol hyn, gofynais y cwestiwn i ddosbarth o ddynion ieuainc yn yr Ysgol Sul, pan oeddynt yn darllen yr adnod hòno yn Ioan, " Ysbryd yw Duw, a rhaid i'r rhai a'u haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd." Cytunent oll mai myned i wrando'r Gair a feddylid wrth addoli Duw yn yr adnod dan sylw. Yn wir, mae'r hen air Biblaidd addolijm mron myned ar goll, o'r cof, ac o'r geiriau, yn yr oes hon. Gwraudo mae'r bobl y dyddiau hyn. Anfynych iawn y clywir neb yn dywedyd ei fod ym myned i addoli Duw; ond myned i wrando Mr. K------y mae'r dyn; dao 19.—Gorphmaf 15, 1863.