Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$8faill Ìjlîtîpi0. SWPER YR ARGLWYDD. Gan y Parch. Daniel Evans, Corris. Y mab dyn yn fod cyfansawdd, cynnwysedig o gorff ag enaid. Y mae gan y naill ddylanwad helaeth ar y Uall. Bron yn ddieithriad y mae pob argraff ddwfn ar ei gof a'i galon yn cael ei gwneyd trwj gyfrwng ei synwyrau. Gwnai treulio awr ar faes y frwydr effeithio yn ddwysach ar ei deimlad, a rhoi cywirach syniadau iddo am erchylldra rhyfel, na wnai darllen cyfrolau o'r dysgrifiadau mwyaf manwl, cywir, a hyawdl. Y mae pethau gweledig yn dylanwadu yn gryfach arno na phethau anweledig, a phethau agos na phethau pell. Dyma'r rheswm fod cymmaint yn ddiystyr o dragwydd- oldeb a'i sylweddau, o'r nefoedd a'i phleserau, ac o uffern a'i phoenau. Beiddiwn ddyweyd, pe bai bosibl i'r anghredadyn mwyaf difraw, i dreulio pum mynyd wrth borth y llynclyn obry, na orphwysai nes cael sierwydd ei fod allan o berygl myned i'r Ue poenus hwnw. 0 ganlyniad, gan fod i ddyn ran weledig yn gystal a rhan anweledig; a chan ei fod yn fwy agored i dderbyn argramadau oddi wrth y " pethau a welir" nag oddi wrth "y pethau ni welir;" rhaid i unrhyw gyfun- drefn grefyddol addas iddo, fod yn gynnwysedig o "lythyren" yn gystal ag "ysbryd," o bethau allanol, gwledig, yn gystal ag o bethau ysbrydol, anweledig. Ac ef allai mai o blegid y neillduolrwydd yma yn ein natur, y darfu i'n Harglwydd bendigedig ordeinio pethau gweledig yn ei Eglwys i fod yn goffadwriaethol o hono Ef, ac yn insel y cyfammod rhyngddo a'i bobl, ar ol iddo fyned adref i ogoniant, ac felly yn bresennol yn an- weledig iddi. Y mae amgylchiadau sefydliad yr Ordinhâd hon yn hysbys i bawb; Luc xxii. 19, 20.; 1 Cor. xi. 23—26. IS.—Mehefin 15, 1863.