Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Sfäiîl ê$lw$j>i$. GWEDDI. Gan y Parch. Canon Jones, Llandwrog. " Rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef; a'i fod yn wobrwywr i'r rhai sydd yn ei geisio." Crediniaeth o hyn yw sail ein gobaith y derbyniwn fendithion pau y nesäwn at Dduw mewn gweddi. Pa beth yw gweddi1? Tywalltiad y galon ger bron Duw am bethau yn unol â'i ewyllys, yn enw a thrwy haedd- iant Crist. Heb y galon ni wna agwedd ostyngedig allanol, na geiriau addas, ddwyn un fendith ysbrydol i'r enaid. Nid yw ond megys gwatwar i " nesäu at Dduw â'r genau, a'i anrhydeddu â'r gwefusau, a'r galon yn pellhau oddi wrtho." Y mae yn rhyfyg dychrynllyd i gynnyg iddo addoliad heb y galon. Ni byddai hyny ond offrymu y dall a'r cloff, a gwneuthur y gwasanaeth yn ffieidd-dra. O'r tu arall, " gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo." Anadl gweddi sydd yn dyfod o fywyd ffydd. Hyfryd waith y saint ym mhob oes yw y ddyledswydd hon, ac y mae yu gysur ganddynt, pan ym mhell oddi wrth eu gilydd, i feddwl fod eu gwedd- iau yu cyfarfod ger bron gorsedd gras, ac y cyferfydd cyn bo hir eu personau ger bron gorsedd gogoniant. Ni ddichon ein gweddi fod yn dderbyniol ond' yn unig trwy haeddiant ac eiriolaeth yr Arglwydd Iesu. Nid aeth, ac nid ä un deisyfiad yn gymmeradwy at Dduw, ond yu y ffordd hon. Y mae cymmaint o ddaiaroldeb, huuanoldeb, ammheuon, claerineb, medd- yliau crwydredig, &c, yn ein gweddiau ni, fel nad atebid yr un o honynt yn rasol, pe nad offrymid hwynt yn enw Iesu. "Pa beth bynag a ofynoch i'r Tad yn fy enw," medd Efe, "Efe a'i rhydd i chwi." Ac felly y dysg yr Eglwys ei phlant i aufon eu holl eirchion (er pa mor fyr) yn yr enw llwyddiannus hwn. Trwy'í 17.—Mai 15, 1863.