Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

öpsfáîn ŵjrî«J8i'ü. DEWI SANT. Gan y Parch. D. Sitoan Evans. Nid testyn hwylus i draethú arno mewn cyhoeddiad o fath y Cyfaill Èglwysig yw Dewi Sant; o blegid prin y gellir dywedyd nemawr ddim o wèrth yn ei gylch heb fyned lawer yn helaethach nag y mae terfynau cyhoedd- iad bychan o'r fath yn caniatäu. Y mae ei hanes ef, a hanes yr oes yr oedd yn byw ynddi, wedi eu cydblethu â chwedlau, ffrwyth crebwyll toreithiog mynachod y canol oesoedd, fel, os gadewir y chwedlau hyn allan yn llwyr, y rhaid gadael allan ar yr un pryd y rhan fwyaf o lawer o'r hyn sy genym i'w ddywedyd yng nghylch y Sant a'i amseroedd. Tuag at wneuthur tegwch â phwnc o'r fath, dylid, nid myned heibio i'r chwedlau a'r traddodiadau yn ddisylw, megys pethau annheilwng o ystyriaeth ; ond yn hytrach dylid eu chwalu a'u chwilio, er mwyn cael gweled beth yw eu sail a'u sylw- edd, a pha faint o wirionedd pur a gynnwysir yn gym- mysg â'r dychymmygion ofergoelus hyn. Anfynych iawn y mae metel bur i'w chael mewn un man, heb fod cryn lawer o sothach ac ysbwrial yn ei hamgylchynu: ac mewn amgylchiad o'r fath, dysgir ni gan synwyr cyffredin, nid i gadw'r cyfan am fod gwerth mewn p'eth o hono, ac nid i daflu'r cyfan ymaith chwaith, o herwydd fod eyfran fawr o hono yn gynnwysedig o ddefnyddiau diwerth ; ond yr ydym yn cymmeryd poen a thrafferth i wahanu y pur oddi wrth yr ammhur, y gwerthfawr oddi wrth y gwael, a'r aur coeth oddi wrth y sorod sydd yn ei amgylchu. Felly yn gywir y dylid ymddwyn at hen hanes, ac yn bendifaddeu hen hanes a fyddo wedi ein cyrhaedd trwy ddwylaw ymynachod, ac ereill o ysgrifen- wyr yr oesoedd canol. Nid derbyn ÿ cwbl megys hanes 16.—Mrill 15, 1863.