Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfgfaill Ŵýlw%n$, Y BLODAU.» " Ystyriwch lili y maes." Pan oedd ein Gwaredwr bendigedig ar y ddaiar, " Efe a gerddodd o amgylch gan wneutbur daioni." Elai ar ei draed o le i le, gan iachäu'r cleifion, a phregethu yr Efengyl b'le bynag y byddai. Gan fod y bobì yn dor- fë'ydd yn ei ddilyn, gan ddwyn y cleifion ato i'w hiachäu, yr oedd yn arfer pregethu iddynt yn yr heolydd, ac felly, fe draddododd y rhan luosocaf o'i bregethau yn y maes. Nid oedd yn cymmeryd testynau i bregethu arnynt fel y gwneir yn awr, ond cymmerai achlysur oddi wrth ryw bethau o'i amgylch, er gwneyd ei bregethau. Yn y boreu, tra yr oedd yr haul yn esgyn dros y bryniau, cyfeiriai ato, a dywedai wrth ei ddys- gyblion, " Chwi yw goleuni'r byd." Dro arall, cyfeiriai eu sylw at yr halen oedd wedi gwlychu a difiasu, nes nad oedd werth dim; ac yna fe ddangosodd fod ei bobl fel yr halen hyny pan maent yn colli ei ysbryd. Wele ddinas ar y bryn uchel draw, fe'i gwelir o bob lle o amgylch, ac y mae yn dyweyd wrth ei ddysgyblion, eu bod fel dinas a osodir ar fryn. Mae'r dyn yna sydd yn aredig yn cadw ei lygad ar y gwys, nid yw yn edryeh o'i ol; ac y mae Crist yn dyweyd wrthym, os edrychwn ar y pethau o'n hol, nad ydym gymhwys i deyrnas Dduw. Oddi wrth yr hauwr yn y maes, mae Crist yn dysgu pa fodd y pregethir Gair Duw, ac mor wahanol y derbynir ef gan ddynion. Felly y mae yn dysgu oddi wrth y winwydden ar ochr y ffordd, y ffigysbren o hyd golwg, a'r winllan ar ael y bryn; oddi wrth fwrw rhwyd i'r môr; oddi wrth syrthiad aderyn y to ar y ddaiar; ac oddi wrth syrthiad gwallt ein pen. Yna y * Cymmerwyd y traethawd hwn o "Lectures to Children" seçond series. J. Moräis. 15.—Mawrth 15, 1863.