Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fgfatll Ögl»î5i0. TREFN CONFFIRMASIWN, NEU ARDDODIAD DWYLAW. Gan y Parch. W. Evans, Rhymney. 0 bob trefh berthynol i'r Eglwys, nid oes yr un wedi cael ei ehamddeall, a'i chamddarlunio, a'i chamddefn- yddio yn fwy yng Nghymru na'r ordinhâd o Gonffir- raasiwn. Hyderaf y bydd yr ychydig sylwadau syml canlyuol yn foddion i raddau i symmud ymaith ragfarn rhai, a difaterwch ac anwybodaeth ereill. Nid yw yr enw a roddir arni yn y wlad yn gyffredin, sef "Bedydd Esgob," yn enw priodol. Nid bedydd ydyw. Mae dwfr yn hanfodol i'r bedydd, ond ni ddefnyddir dwfr wrth weini Conffirmasiwn. Ac n/d oes gwahaniaeth rhwng bedydd gan esgob, a bedydd gan offeiriad neu ddiacon. Gelwir hi yn y Llyfr Gweddi yn Gonffirniasiwn, neu Arddodiad Dwylaw. Arddodiad Dwylaw yw yr hen enw ysgrythyrol, a'r hwn a arferid yn y brif eglwys; dengys hwn ddull allanol gweinyddiad yr ordinhâd. Enw diweddarach yw Conffirraasiwn, yn gosod allan natur ac amcan, rhwymau a bendithion yr ordinhâd. Clywn amryw yn dyweyd weithiau, mai rhyw hen ddefod Babydäol ydyw. Dynion hollol anwybodus jw y cyfryw, na wyddant ddim am natur yr ordinhâd, nac am gyfeiliornadau Pabyddiaeth, na dim am hanes yr Eglwys cyn codiad Pabyddiaeth. Darlunia ereill hi, fel pe byddai yr esgob yn honi hawl wrth ei gweinyddu i gyfranu yr Ysbryd Glân; a Uefarant mewn cellwair am yr Ysbryd Glân fel yn dyferu trwy flaenion bysedd yr esgob ar benau*y rhai sydd mor benwan a chym- ûieryd eu harwain o'i flaen. Iaith gwawd a chabledd yw iaith fel yna, teilwng o neb ond cablwyr ac anffydd- wyr. Gŵyr pob dyn sydd wedi darllen Trefn Conffir- U.—Chwefror 15, 1863.