Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^gfaül églwpift- Y MERTHYR FFARRAR, ESGOB TY DDEWI. Dyrchafwyd y Dr. Ffarrar i fod yn Esgob Ty Ddewi, yn y flwyddyn 1547, pan yr oedd y Duc o Somerset, ewythr Iorwerth VI, mewn bri ac awdurdod dano; a thra y bu y gwr hwnw mewn dyrchafiad, cafodd y Dr. Ffarrar beth llonyddwch i lywodraethu ac iawn- drefnu ei esgobaeth. Ond ar ol marwolaeth ei noddwr, y Duc o Somerset, ni chafodd efe ond croes a helbuí diorphwys, hyd ddiwedd oes y brenin. Lluniodd ei elynion (ym mhlith y rhai yr oedd un George Constantine, a wnaethpwyd gan yr Esgob yn gofrestrydd ei esgobaeth) un ar bymtìieg a deugain o achwynion yn ei erbyn, i ba rai y rhoddes atebion a fuasent yn ei ddifeio ym marn pob un diragfarn, o ran sylwedd yr achwynion. Eithr nid oedd dim a foddlon- ai ei elynion ond ei farwolaeth. Chwefror 4, 1555, cafodd ei ddwyn o fiaen yr Esgob Gardiner, i'wholi am ei ffydd a'i athrawiaeth, a thebygol yw y cawsai efe ei gollfarnu y diwrnod hwnw, ond fod vr amser yn rhy fyr, a'r gwaith yn ormod, ar law ei elynion. Chwefror 14, cafodd ei ddwyn o'r carchar i'w holi drachefn, ac wedi hyny danfonwyd ef i waered i Gymru i gael ei gollfarnu yno. Ar y 26fed dydd o'r un mis, darfu i Sirydd Sir Gaerfyrddin ei ddwyn ger bron y Dr. Harri Morgan, ae ereill, yr hwn oedd wedi cael Esgobaeth Ty Ddewi, ar ol ysbeilio y Dr. Ffarrar o honi. Yn Eglwys Caer- fyrddin yr oedd-eu heisteddiad. Derbyniodd Morgan y carcharor oddi ar ddwylaw y Sirydd, ac a'i traddod- °dd i gadwraeth un Mr. Owen Jones. Wedi hyny, tysbysodd iddo fod trugaredd a thiriondeb y brenin a'r frenines i gael eu cynnyg iddo, ond ar yr ammod o'i fod ef yn ymostwng i gyfreithiau y deyrnas, ac yn cyd- ymffurfio â'r Eglwys Gatholig. 1.—Ionawr 15, 1863.