Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fîfaill %%\w%ú^ PLANT A*U RHIENI. Ephesiaid vi. 1—4. 0 bob dyledswydd a hanfoda rhwng dynion a'u gilydd, yr anwylaf, y fanylaf, a'r bwysicaf, yw'r hon a hanfoda rhwng plant a'u rhieni. Ond, a chyfrif y gymdeithas ddynol oll, gwelir mai hi sydd yn cael lleiaf o sylw. Po agosaf fyddo y berthynas, tynaf a mwyaf oll fydd y rhwymau. A chan nad oes un berthynas, trwy ddeddf natur, yn nes na'r hon sydd rhwng rhieni a phlant, mae eu rhwymau i'w gilydd yn gyfatebol, ac yn gyffelyb i rwymau gwr a gwraig i'w gilydd, ac yn nesaf yn eu pwysigrwydd i'n rhwymau i Dduw ei Hun. Esgeulusdod o'r ddyledswydd hon yw'r achos penaf o'r holl ddrygau, y tlodi, a'r trueni sydd yn ein tir. Mae mwy o ddedwyddwch ac annedwyddwch yn gyssyllt- iedig â'r modd y cyflawnir y ddyledswydd hon nag mae hawer yn feddwl. Gan hyny, gall mai nid. anfuddiol fyddai dyweyd gair bach ar y pwnc hwn wrth blant a rhieni trwy gyfrwng y Cyfaill. Sylwn yn gyntaf, ar ddyledswydd plant at eu rhieni. "Y plant, ufuddhëwch i'ch rhieni." Mae ufudd-dod pìant i'w rhieni yn beth naturiol a hollol resymol, gan mai hwynt-hwy 3rdynt offerynau eu bodolaeth, a chyf- i'yngau eu maeth a'u cynnydd; fel y cyfryw mae gan- ddynt awdurdod drostynt o roddiad Duw, yn ol trefn natur, a deddf amgylchiadau. Mae yn rhaid i'r ufudd- dod, cyn ei fod yn gymmeradwy gan Dduw, gyfodi oddi ar gariad ato Ef a'i air fel un ag sydd yn ei orchymmyn, ac oddi ar serch brwd at rieni. "Ufuddhëwch yn yr Arglwydd." Hwn yw terfyn eithaf y ddyledswydd. Gall hyn olygu, er mwyn gorchymmyn yr Arglwydd ; ac yn ol gorchymmyn, neu air yr Arglwydd : neu gall olygu pob math o ufudd- U.—Rhagfyr 15. 1862.