Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| dfsfaill ŵglfflgaif. GWIRFODDOLIAETH. Gcm y Parch. H. Owen (Meilir), Llanerchymedd. Fe ddichon Gwirfoddoliaeth, yr hwn sydd air yn cyn- nwys meddylddrych dansoddol, arwyddocäu ymroddiad y galon, o ewyllys a gwirfodd, i garu a gwasanaethu Duw; a dyledswydd rwymedig pob creadur a grewyd ar lun a delw Duw, ydyw ei garu a'i wasanaethu Ëf '-' â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth." Ac y mae y ddyledswydd rwymedig hon yn cael ei gwasgu yn ddwysach at bob dyn, os ys- tyrir fod y Duw Mawr yn ei anfeidrol gariad wedi ail- greu neu adnewyddu dyn syrthiedig yn y greadigaeth ysbrydol trwy roddiad ac aberthiad ei Anwyl Fab ar y groes, a thrwy dywalltiad yr Ysbryd Glân. Pan ym- ddangosodd yr Iesu bendigedig ar ol ei adgyfodiad, yng nghanol ei Apostolion, ac y dywedodd, " Tangnefedd i chwi," Efe a anadlodd arnynt anadl bywyd, a hwnw yn fywyd tragywyddol ynddo Ef. Fe roddwyd yr Ysbryd, ac Efe a aeth i mewn i'r esgyrn sj^chion oedd yn gor- wedd yn wasgaredig ar y glyn, a hwy a ddaetbant yn fyw i Dduw. "A chariad tragywyddol y carodd Efe ddynolryw, am hyny y tynodd Efe hwynt â thrugaredd" ato ei Hun; a'u dyledswydd rwymedig hwythau fel prynedigion yr Arglwydd ydyw, "rhoddi o honynt eu cyrfT yu aberth byw, sauctaidd, cymmeradwy gan Dduw; yr hyn yw eu rhesymol wasanaeth hwynt " Y mae ystyr arall y gallesid ei roddi i '* wirfoddol- iaeth," a hwnw heb fod o gymaint pwys a'r ystyr crybwylledig; fe ddichon y gair arwyddocäu gwaith nifer o ddynion gwladgarol yn cyduno. ac yn ymrwymo yn wirfoddol i amddiffyn eu breintiau a'u hiawnderau gwladol; ac y mae genym enghraifft nodedig o hyn yn y dyddiau presennol, pan y mae miloedd lawer o'n cyd- 10.—Hydreflö. 1862.