Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cgfaiîî Ẃgîuipijg. ADGOFIANT Y PARCH. GRIFFITH JONES, LLAN- DDOWROR. Parhád o du dalen 77. Gwlith y nef oedd ar ei wefus:—ei dda\vn Ddihunai'r esgeulus; Oedd yn ei waith addien wr, A ilefarwr llafurus. Dywed Arglwydd Bacon fod darllen yn gwneuthur dyn cyflawn, llefaru yn ddyn parod, ac ysgrifenu yn ddyn cywir. At hyn y gallwn ychwanegu, fod gweddi yn gwneuthur dyn duwiol ac ysbrydol. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn cyfiawn yn ei wybodaeth, yn barod bob amser i ateb i bob un a ofynai iddo am y gobaith oedd ynddo. Fel ysgrifenydd, nid oedd neb yn rhagori arno, yn " weithiwr difefi, yn iawn gyfranu gair y gwirionedd;" ac fel dyn duwiol ac ysbrydol, yr oedd yn hynod yn certh ei weddi, "yn wresog yn yr ysbryd," fel Apolos gynt; ac yn gweddio bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr ysbryd." Ymddengys hyn yn ei " Alwad at Orseddfainc y Gras," a'r Ffurf o Wedd'iau a argraffodd. Yn y fiwyddyn 1730, fel yr awgrymais, y dechreuodd Mr. Jones waith arbenig, gwaith a fythola ei enw, sef Yr Ysgolion Elusengar Cylchynol. Yr hanes a rydd am eu dechreuad, fel y tystiolaetha y Parch. T. Charles, sydd fel y canlyn. Ei arfer oedd darllen y gwasanaeth yn fisol ar y dydd Sadwrn o flaeu y Sul y cyfranai ordinhâd Swper yr Arglwydd. Ar ol darllen yr ail Lith, gofynai a oedd neb yn y gynnulleidfa wedi dal sylw ar un adnod yn y pennodau a ddarllenodd. Gwedi i ryw rai enwi adnod, neu adnodau, yna yr eglurai" yntau yr adnodau a enwid mewn modd tirion, goleu, a deallus, addas i amgyffred pobl dywyll gyffredin. Gwedi hyny, 7.~Gorphenaf 15, 1862.