Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ (Igfaill Ŵjjluipig. ADGOFIANT Y PARCH. GRIFFITH JONES, GYNT 0 LANDDOWROR. Gan y Parch. Joseph Hughcs (Carn lngli). Dywedir fod genym yn fynych ormod o wybodaeth yng nghylch dynion dinod, ac annheilwng o sylw, oud ychydig am ddynion ag sydd yn teilyngu parch ac hy- nodrwydd : nid ydyw y sylw-nod hwn yn briodol i'r Parch. G. Jones : yr oedd ef yn enwog yn ei ddydd, ac y mae genym ddefhyddiau tuag at ysgrifenu llawn lianes ei fywyd a'i lafurwaith fel Gweinidog Efengyl Crist. Nid goruchionen danllyd ydoedd, yn füamio am ychydig fynydau, ac yn diflanu yng nghaddug nos, ond seren ddysglaer a diysgog, yn parhau i roddi cysson lewyrch drwy holl ardaloedd Cymru, am flynyddoedd lawer. Pan ddarfu goleuadau mawrion y Diwygiad .fachlud yn nos angeu, tywyllwch a orchuddiodd y wlad, a'r fagddü y bobloedd i radd helaeth, ond fe ddarfu yr Esgobion Morgan a Pharri ac ereül anrhegu cenedl y Cymry â thrysor llawer mwy gwerthfawr na thrysorau daiarol: rhoddasant i'r hen Gyinry y Beibl yn eu hiaith eu hunain, yn llusern i'w traed, a ílewyrch i'w lìwybr. Pan fu farw yr Esgob Parri, yn 1623, yr oedd y Canghellwr Rees Eichard, Periglor Llanymddyfri, yn pregethu yr Efengyl yn ei phurdeb, yn ymlid ymaith y tywyllwch, ac yn cyfausoddi llyfr a fythola ei enw a'i dduwioldeb, sef "Canwyll y Cymry:" a thrwy lewyrch y Ganwyll hon arweinwyd miîoedd yn y dywysogaeth o dywyllwch ysbrydol i ryfeddol oleuni Duw. A phan fu farw yr hen Eicer yn 1644, y Parchn. W. Cradoch, Stephen Hughes, ac amryw ereill a • deithasant dros fynyddoedd Cymru, gan bregethu'r gwir Puredig ym mlioh bró-dir. 5.—Mai 15, 1862".