Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfaill ©gluipig, UNDEB CREFYDDOL. Cydnebydd pob Eglwys Gristionogol, a phob enwad crefyddol, fod undeb yn beth dymunol, gwerthfawr, ac ysgrythyról. " Wele, nior ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yng nghyd." Ysgrifena pob ysgrifenydd o blaid undeb, pregetha pob pregethwr dros undeb, a gweddîa pob gweddîwr am undeb; er y dichon yn aml mai undeb yr enwad y perthyna efe iddo, sydd gan yr ysgrifenydd, y pregethwr, a'r gweddîwr, mewn golwg, ac nid undeb yr Eglwys Lân Gyffredinol. Addef pawb mai un oedd Eglwys Crist yn y dechreu, mai un fydd hi yn y diwedd, ac mai un ddylai hi fod yr awr hon. Mor bell a hyn yr ydym oll o'r un farn. Os edrychir ar yr Eglwys fel ternl, dylai fod yn un, megys meini bywiol wedi eu gosod ar yr un sylfaen safadwy; os fel teulu, dylai fod yn un, megys plant yr un tad, a chyd- frodyr i'r un brawd henaf; os fel corff, dylai fod yn un, megys aelodau yn cyfattal yr un Pen Mawr; os fel llu banerog, dylai fod yn un, megys milwyr yn cydfrwydro yn erbyn yr un gelyn, ac nid fel y Philistiaid gynt, a phob un â'i gleddyf yn erbyn ei gyfnesaf; ac fel dinas, dylai fod yn un, nid fel Babel yn gymmysgedig, ond fel Ierw- salem, " wedi ei chydgyssylltu ynddi ei hun." Gwnaeth Duw lawer er mwyn dysgu a sicrhau undeb yn yr Eglwys Iuddewig; nid oedd iddi ond un deml, un arch, un drugareddfa, un allor i aberthu arni, un llwyth i Aveini, ac un teulu i offeiriadu yn y cyssegr. Rhwygwyd yr undeb gan Ieroboam, pan adeiladodd efe allorau yn Dan a Bethel, ac y gwnaeth oífeiriaid o we- hilion y bobl. Efelly yn yr Eglwys Gristionogol, er mwyn cadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd, nid oes ond un Corff, un Ysbryd, un Arglwydd, un Mawrth 15, 1862.