Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ENWOGION Y BEIBL. MOBES. (Parhád o c?M(íaZ. 284.) Yr oedd Moses, fel y nodasom yn ein rhifyn diweddaf, yn ddeddfroddwr i feibion Israel. Y deddfau a roddodd efe iddynt a sefydlasant drefn a llywodraeth yn eu plith, ac a'u ffurfiasant hwynt yn wladwriaeth. Fel deddfroddwr mae yn sefyll ar ei ben ei hun yn hanes y byd. Ni sonir am ddeddfroddwr tebyg iddo mewn unrhyw oes nac ym mhlith unrhyw geuedlaeth hen neu ddiweddar. Efe a gafodd ei ddeddfau trwy ddwyfol ysbrydoliaeth; yr oedd- ynt yn " oraclau by wiol;" ac efe a'u rhoddodd hwynt i bobl neillduol, o dan amgylchiadau neillduol, ac i ddyben- ìon neillduol. Felly nid ydym i edrych arno fel deddf- roddwr cyffredin yn traddodi deddfau cyffredin i bobl gyffredin o dan reolau cyffredinol rhagluniaeth. Yr oedd Israel yn " bobl briodol i Dduw"—wedi cael eu dwyn allan o blith cenedloedd y ddaiar, ac yn gwahaniaethu o ran eu hamgylohiadau oddi wrthynt oll, ac felly y deddfau & roddwyd iddynt gan Dduw trwy Moses a fwriedid nid yn unîg fel cyfreithiau i'w rheoli a'u llywodraethu hwynt yn eu gwlad, ond hefyd fel dammegion a chysgodau ag oedd- ynt i fod yn wersi addysgiadol i'r byd o dan yr Efengyl. Yr oedd deddfau Moses yn edrych tu hwnt i'r presennol i'r dyfodol. Ysgrifenwyd hwynt er addysg i ni, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd; golygid hwynt yn y llythyren fel cyfreithiau i lywodraethu Israel ÿn ol y.cnawd—-had naturiol Abraham—t)ra y parhäi eu gwladwriaeth, ao y trigent-yfl y tir a roddwyd iddyut i'w jÈéddiaatìu, ond yn •uhyatyr ẁryd^ PyPÄwysentí^gwyddoriop, ar y rhai y Hywoíẃethir y «ŵ Israeliaid-^y rüai ydynt blant IM—Rhagfyr, 1882. J J