Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f (faíaill Ögiuipig, ENWOGION Y BEIBL. MOSES. (Parhâd o dudal. 255.) Yn ein rhifyn diweddaf gwelsom Moses ar lan y Môr Coch. Yr oedd yn ymddangos yno fel gwaredwr â gwialen Duw yn ei law. Yr ydym yu ein rhifyn presennol yn edrych arno wrth fynydd Sinai, ac yr ydym yn ei weled yno fel deddfroddwr â llechau y gyfraith yn ei law. Wedi gwaredu y bobl o'r Aipht y peth nesaf oedd rheddi deddfau a barnedigaethau iddynt, i'w cyfansoddi yn wlad- wriaeth. Yr oedd Moses yn ddyn rhyfeddol fel gwaredwr ac fel deddfroddwr; ond mae ei glod-yn ei gymmeriad olaf yn fwy parhäus nag yn ei gymmeriad cyntaf; canys ei ddeddfau a barhânt yn eu hefFeithiau a'u dylanwadau hyd ddiwedd amser; a theimlir eu hefíeithiau a'u dylanwadau nid yn unig ym mhlith y bobl i'r rhai y rhoddwyd hwynt, ond hefyd gan yr holl genedloedd ag ydynt wedi derbyn yr Efengyl. Moses a roddodd i'r bobl y ddeddf foesol—y Deg Gorchymmyn. Duw a'u rhoddodd trwy Moses; ac Efe a "tfnaeth hyny mewn modd rhyfeddol; Efe a'u llefarodd yn gyntaf â'i eneu yng nghlustiau y bobl. ac wedi hyny efe a'u hysgrifenodd â'i fys ar ddwy lech gareg. Yr Arglwydd si ddísgynodd ar y mynydd, ac yr oedd yr olwg yu fawr- sddog ac ofnadwy. Yr oedd taranau a mellt a sain udgorn a mwg a thywyllwch a thymmestl a daiargryu, a'r Ar- glwydd o ganol y tân, y tywyllwch, a'r mwg a lefarodd y Öeg Gair, lle y clywai y bobl. Ẃedi llefaru y ddeddf wrth y bobl yr Arglwydd a alwcdd Moses i'r mynydd, ac Ŵ a ysgrifenodd holl eiriau yr Arglwydd mewn Hyfr. Efe 191—Tachwedd, 1882.