Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dHsJfaHI <&$lw%%i$. ENWOGION Y BEIBL. MOSES. (Parhâd & dudal. 228.) Moses, â gwialen Duw yn ei law, a fu drech na Pharaoh; bu yn drech hefyd na holl swynwyr yr Aipht, a maeddodd hefyd holl dduwiau yr Aipht; gwnaethpwyd barn yn eu herbyn hwynt. Moses a orchfygodd, a Pharaoh, er caledu ei galon, a orfu o'r diwedd ymostwng. Yn y pla diweddaf, pan darawyd y cyntafanedigion, ciliodd ei nerth oddi wrthe; efe a'i bobl a gyfodasant liw nos, ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, " Codwch, ewch allan o fysg fy mhobl, chwi a meibion Israel; ewch a gwasan- aethwch yr Arglwydd, fel y dywedasoch; cymmerwch eich defaid a'ch gwartheg, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch fìnnau." A'r Aiphtiaid a fuont daerion ar y bobl gan eu gyru ar ffrwst allan o'r wlad, o blegid dywed- asant, " Dynion raeirw ydym ni oll." Felly torwyd iau y gorthrymydd, agorwyd drysau y carchar, ac Israel a aeth allan o dy y caethiwed; ni adawyd ewyn yn ol; aethant oll allan, ac nid oedd un llesg yn eu llwythau. Gwersyll- asant " yng nghwr yr anialwch;" anialwch oedd o'u blaen. Yr oedd Moses yn gweled anhawsderau a pheryglon yr anturiaeth, ond efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr An- weledig. Yr oedd yn canlyn Duw; yr Arglwydd oedd eu harweinydd. Yr oedd Efe yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl i'w harwain ar y ffordd, a'r nos mewn colofn o dân i oleuo iddynt, fel y gallent fyned ddydd a nos. Yn fuan y bobl o gawsant eu hunain mewn cyfyngder; gwersyllasant wrth y Môr Coch, o flaen Piha- hiroth, rhwng Migdol a'r môr o flaen Baal-sephon. Hhwystrwyd hwynt yn y tir: cauodd yr anialwch arnynt. 390—Hydref, 1882.