Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÿ <$îfatll Ẃjl©í»fg. ENWOGION Y BEIBL.- MOSES. (Parhâd o dudal. 200.) Moses, wrth orchymmyn Duw, a ddychwelodd i'r Aipht. Efe a gyfarfu ag Aaron ei frawd, ac a fyuegodd iddo holl eiriau yr Arglwydd. y rhai a lefarodd Efe wrtho; ac Aaron a fu i Moses yn lle geneu. Moses a fynegai i Aaron yr hyn a lefarai yr Arglwydd wrtho. ac Aaron a'i traethai i Pharaoh. Ac felly y ddau frawd yng nghyd a aethant at Pharaoh, ac yr oedd gauddynt genadwri ato oddi wrtb. Dduw. Dywedasant wrtho, " Fel hyn y dywedodd Ar- glwydd Dduw Israel, Gollwug ymaith fy mhobl." Ond Pharaoh a atebodd, "Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf." Felly y ddadí oedd rhwng Duw lsiael a Pharaoh a duwiau yr Aipht. Duw Israel a dorodd y ddadl hon trwy yr arwyddion a'r rhyfeddodau y rhai a wnaeth Efe trwy law Moses ac Aaron. Pharaoh a ollyng- odd y bobl. Gwnaethpwyd barn ar dduwiau yr Aipht, a gwelwyd—gosodwyd y peth tu hwnt i ddadl—mai yr Ar- glwydd Efe sydd Dduw yng nghanol y ddaiar. Felly yr oedd yr arwyddion yn yr Aipht a'r rhyfeddodau yra maes Soan nid yn unig yn ddinystriol i'r bobl ac i'r wlad, ond hefyd yn gwrthdaro eu harferion coelgrefyddol, ac yn dymchwelyd eu duwiau. Yr oeddynt yn ddeg o nifer, a gelwir hwynt yn gyffredin " Pläu yr Aipht." Y cyntaf oedd troi dwfr yrafon Nilus, a holl ddyfroedd yr Aipht, yn waed. Yr oedd y dwfr yn gyesegredig, ac addolid yr afon. Felly yr oèdd y pla hwn yn farn ar un o dduwiau yr Aipht. Yr ail bla oedd y llyffaint. Yr afon, yr hon a addolent, 189—Medi, 1882.