Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfaUl iglropig- ENWOGION Y BEIBL. MOSES. (Parhâd o dudal. 171.) Pan yr oedd Moses yn bedwar ugain mlwydd oed, a deugain o honynt efe a dreuliodd fel ffoadur yn nhir Midian, yr Arglwydd a'i hanfonodd i'r Aipht i waredu Israel o'u caethiwed. Bugail defaid oedd yn ohir Midian, a bugeilio defaid Iethro, ei ehwegrwn, oedd pan yr ymddangosodd yr Arglwydd iddo. Gwael ac isel oedd ei swydd, ond nid yn ddianrhydeddus. Gellir dyweyd am dano fel y dywedwyd am Dafydd, i'r Arglwydd ei "gyra- meryd o gorlauau y defaid, ac oddi ar ol y defaid cyfebron, i borthi lacob ei bobl ac Israel ei etifeddiáeth." Salm lxxviii. 70, 71. Angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth yn Horeb, mynydd Duw. Horeb a Sinai, fe ddichon, a llefaru yn briodol, oeddyot ddau grib o'r un mynydd; ond mae yn eglur y defnyddir weithiau y ddau air fel o gyfystyr am yr holl fynydd; gwelir hyn os eymharir Ecsod. xix. 18 a Deut. iv. 15. Yr aogel hwn oedd Iehofah, ac mae yn galw ei hun yn Dduw Abraham, Isaac, a Iacob. Dyma'r aogel a ymddaogosodd i Hagar, ac wrth yr hwn y dywedodd hi, " Ti, 0 Dduw, wyt yn edrych urnaf." Gen. xvi. 13. Dyma'r angel yr eiriolodd Abraham ger ei fron ar ran Sodom, oa ddyfethai efe y ddinas (Gen. xviii. 23—33), a thyma'r aDgel a alwodd ar Abraham o'r nefoedd pan yr oedd yn aberthu ei fab Isaac, ac a ddy wedodd wrtho, " I mi fy hun y tyngais mai gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhâf dy had di." Gen. xxii. 15—17. Dyma'r angel a lefarodd wrth Iacob yn Luz, sef Bethel, pan y fifodd efe rhag Esau 188—Áwst, 1882.