Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (íîfaill 0jlv|8ig. ENWOGION Y BEIBL. MOSES. {Parhâd o dudal. 143.) Gellir rhauu bywyd Moses i dri dosbarth, ac mae Sant Stephan yn ei araith yn y seithfed bennod o'r Actau yn gwneuthur hyuy, a phob dosbarth yn cynnwys dengain mlynedd. Y dosbarth cyntaf a dreuliodd yn llys Pharaoh, yr ail yu nhir Midian, a'r trydydd yn yr anialwch; ac efe a fu farw pau yr oedd yn fab ugain mlwydd a chant. Ni thywyllasai ei lygaid, ac uì chiliasai ei ireidd-dra ef; rhoddodd Duw iddo gorff prydferth a hardd, iachus a lioew, ac yntan a'i meddiannodd mewn sancteiddrwydd a pharch, ac a arferodd gymmedrolder mewu bwydydd a diodydd; heb ymarfer y rhinweddau hyn uis gallesid dyẁedyd am dano yu ei hen ddyddiau ac yn ei benllwydni ei fod yn "iraidd" ei gnawd pan yr oedd wedi cyrhaedd oes o un cant a dau ddeg o flynyddoedd. Mae'r anllad a'r anghymmedrol yn byrhau eu dyddiau ac yn lladd eu hunain. Yr oedd Moses yn llys yr Aipht mewn parch a bri; merch Pharaoh a'i magodd, ac efe a fu iddi yn fab; yr oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid, ac yr oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. Fe ddichon mai'r ferch oedd etifeddes ei thad, a Moses oedd ei hetifedd hithau : yr oedd ganddi hi hawl i'r goron, ac uid annhebyg y gwelsid Moses, pe buasai yu aros yn y llys, yn eistedd fel ei holynydd ar deyrn-gadair yr Aipht. Pa un ai felly y buasai ai peidio, nis gellir yn awr dywedyd yn bender- fynol: ond un peth sydd eglur, nid oes yr un ammheuaeth yn ei gylch—gallasai, tra yr oedd yn y Uys, fwynhau heb brinder foethau bywyd; yr oedd "trysorau yr Aipht," os 187—GorpIienaf, 1882.